Anglesea: Achos llys yn 'gynllwyn i gael iawndal'

Gordon Anglesea

Mae cyn uwcharolygydd sydd wedi'i gyhuddo o gamdrin rhywiol hanesyddol wedi dweud bod yr achos yn ei erbyn yn gynllwyn i gael iawndal.

Mae Gordon Anglesea, 79, o Hen Golwyn, yn gwadu tri chyhuddiad o ymosodiad anweddus ac un cyhuddiad o ymosodiad rhywiol difrifol, a hynny erbyn dau o fechgyn nôl yn y 1980au.

Dywedodd Mr Anglesea nad oedd unrhyw honiadau wedi cael ei wneud yn ei erbyn ers ei achos enllib yn 1994.

Ond yn sgil sgandal Jimmy Saville, meddai Mr Anglesea, roedd "cynnydd wedi bod yn nifer y cwynion" ac roedd swyddogion o Ymgyrch Pallial wedi "ailymweld â bechgyn".

Dywedodd: "Roedd hynny i mi yn ffiaidd."

Ychwanegodd ei fod yn credu mai "cynllwyn llwyr dim ond er mwyn hawlio iawndal" oedd yr achos yn ei erbyn.

Mae'r achos yn parhau.