Cegin Cofi: Bara i bawb

Millie ac Emily yn Nghaernarfon
Image caption Millie ac Emily yn mwynhau cacen o Cegin Cofi ar b'nawn Sadwrn yng Nghaernarfon, efo bag o rôls i fynd adre efo nhw

"Nid handouts sydd yma, nid haelioni tuag at y gymuned ydy hyn ond bwyd sydd ar gael inni fydda' fel arall yn mynd i'r bin."

Kenny Khan sy'n siarad efo BBC Cymru Fyw wrth iddo gyfarch hwn a'r llall ar y stryd o flaen ei gartref ar gyrion stâd Ysgubor Goch yng Nghaernarfon. Bron i bob penwythnos mae o yma yn dosbarthu bwyd 'gwastraff' o siop Tesco y dref i bobl y gymuned.

Mae archfarchnadoedd yn taflu miloedd o dunelli o fwyd sy'n hollol iawn i'w fwyta bob blwyddyn ac maen nhw dan bwysau i wastraffu llai.

Mae pobl amlwg fel y cogydd Hugh Fearnley-Whittingstall yn ymgyrchu am lai o wastraff ac eleni cafodd 'archfarchnad bwyd gwastraff' ei hagor yn Leeds.

Image caption Kenny Khan â bwyd oedd yn 'wastraff' i'r archfarchnad

Yng Nghaernarfon, drwy gynllun FareShare FoodCloud, mae Kenny yn mynd i nôl y bwyd yma o'r siop ar ddiwedd wythnos er mwyn ei ailddosbarthu i bobl sydd ei angen.

Er bod y bwyd yn dal yn hollol iawn mae'n wastraff i'r siop naill ai oherwydd fod gormod ohono, ei fod wedi ei labelu'n anghywir neu ddim yn mynd i bara'n ddigon hir ar y silff oherwydd y dyddiad sydd arno.

Mae'r prosiect yn cael ei gynnal drwy'r fenter gymunedol mae'n rhan ohono, Cegin Cofi, oedd yn destun rhaglen deledu ar S4C rai blynyddoedd yn ôl.

Mae pawb sy'n pasio fan Cegin Cofi yn adnabod Kenny, mae 'na lot o sgwrsio a thynnu coes ac mae hynny'n rhan bwysig o'r prosiect meddai.

Image caption Mae bara, tatws a llysiau gwyrdd ymysg y cynnyrch sy'n cael ei roi gan yr archfarchnad.

"Dwi'n byw ar y stâd, mae pobl yn fy adnabod i, weithiau mi fedra i adael y fan â neb arni. Mi wneith un neu ddau gymryd mantais, wrth gwrs, ond dim y rhan fwyaf. A trwy ei wneud o'r fan yma, does 'na ddim embaras.

"Dwi yma i'w hannog nhw ac iddyn nhw wybod fod y bwyd i gyd yn dda - cymrwch o! Peidiwch â theimlo cywilydd a chofiwch mai arian o Gymru sydd wedi creu menter Cegin Cofi, arian gan Lywodraeth y Cynulliad, Cyngor Gwynedd a'n holl noddwyr ni.

"Mi allai dwy dorth, paced o ffa a bag o datws ar ddydd Sadwrn a dydd Sul newid pethau i deulu sydd ar fudd-daliadau. Mae'n debyg eu bod nhw'n gwario gormod ar brydau parod a byrgyrs bwyd cyflym a dim llawer arall yn y cwpwrdd. Allan nhw eistedd rownd y bwrdd a chael pryd iawn.

"Mae pobl yn bwyta rwtsh a deud y gwir. Mae angen ail-addysgu pobl am sut i goginio a defnyddio beth sydd gynnyn nhw."

Image caption Tair cenhedlaeth: Awen gyda'i nain Ann a'i mam Lynette wedi cael ychydig o lysiau fydd yn ychwanegu at eu cinio dydd Sul

Un sydd wedi teimlo cywilydd o fynd i ofyn am fwyd ydi Ann Bohana, sy'n byw i lawr y lôn ond ddim eisiau cael tynnu ei llun.

"Mae hyn yn syniad da, mae'n helpu lot o bobl," meddai.

"Mae 'na lot o bobl heb - dwi 'di bod cyn heddiw. Dim pres a 'di goro mynd i foodbank pan oedd petha'n galad arna fi.

"O'n i yn teimlo cywilydd yn mynd 'de.

"Faswn i ddim 'di mynd oni bai bo fi'n desbret i ddeud y gwir, faswn i 'di mynd heb, ond mi na'th pobl yrru fi yna."

Er mor groesawgar oedd pobl y banc bwyd, sydd wedi ei leoli allan o'r dref ar Stâd Ddiwydiannol Cibyn, un peth sy'n gwneud hyn yn wahanol, meddai Ann, ydy mai rhywun o'r gymuned sy'n ei gynnal: "Mae pawb yn adnabod Kenny, mae o 'di bod fatha ni ma'n siŵr.

"'Di pobl ddim yn teimlo cywilydd yn dod ato fo achos mae o fatha un ohonan ni. Mae o'n mynd allan o'i ffordd i helpu pobl chwara teg."

Does dim angen i bobl deimlo cywilydd o gwbl meddai Kenny: "Does 'na ddim byd yn bod ar gael y bwyd yma. Be arall mae o'n da?

"Erbyn diwadd y dydd yn ôl y gyfraith fydda'r siop 'di gorfod rhoi'r bwyd yma yn y bin ond mae'n dal yn iawn am ddau neu dri diwrnod arall."

Cafodd Cegin Cofi ei sefydlu er mwyn cynnig bwyd iach a rhad i drigolion ardal Caernarfon ond hefyd er mwyn hyfforddi a datblygu sgiliau coginio pobl ifanc.

Meddai Kenny Khan: "Mae angen gwaith yn 'Sgubor Goch - mae'n rhaid cael gwaith i ddechrau, dyna'r cam cyntaf. Ac mae angen annog pobl i gymryd y cyfleoedd yma, does na ddim cywilydd mewn cael eu hannog i gymryd rhywbeth. Mae pobl yn teimlo allan ohoni yma - wedi eu cau allan.

"Y syniad oedd efo'r cynllun yma oedd cael pobl ifanc i gymryd rhan drwy fwyd. Unwaith mae rhywun yn rhoi bwyd yn eich llaw neu'n pasio bowlen ichi os ydych chi'n eistedd o gwmpas y bwrdd efo pobl eraill, dieithriad ella, mae 'na rhywbeth yn digwydd, mae rhywbeth yn newid. A dyna oedd y cysylltiad a'n bwriad ni efo'r fenter yma."

Image caption Bara i bawb

Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am gynllun FoodShare ewch i'w gwefan.