Caerdydd yn arwyddo Kieran Richardson

Caerdydd Image copyright Rex Features

Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo chwaraewr rhyngwladol Lloegr Kieran Richardson ar gytundeb byr tan fis Ionawr.

Gadawodd Kieran Richardson Aston Villa yn ystod yr haf, ac mae wedi bod yn hyfforddi gyda'r Adar Gleision.

Yn gyn-chwaraewr gyda Manchester United, Richardson yw'r pedwerydd chwaraewr i gael ei arwyddo gan hyfforddwr newydd Caerdydd, Neil Warnock, wedi i Warnock arwyddo'r amddiffynwr Sol Bamba, yr asgellwr Junior Hoilett a'r ymosodwr Marouane Chamakh.

"Mae'n fraint cael chwarae i glwb mor fawr a Chaerdydd," meddai.

"Fedrai ddim aros i ddechrau chwarae nawr."

Fydd dim rhaid iddo aros yn hir cyn hynny, gan fod disgwyl iddo wynebu Bristol City nos Wener.