Wrecsam yn diswyddo'r rheolwr Gary Mills

Gary Mills Image copyright Rex Features

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi bod y rheolwr Gary Mills wedi gadael y clwb.

Fe wnaeth Mills, 54, adael Gateshead i olynu Kevin Wilkin ar y Cae Ras ym mis Ebrill 2015.

Mae'r clwb yn 15fed yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl colli pedair o'u chwe gêm ddiwethaf.

Mae'n golygu bod pedwar clwb mwyaf Cymru wedi diswyddo eu rheolwyr yn y 15 diwrnod diwethaf, wedi i Francesco Guidolin adael Abertawe, Paul Trollope adael Caerdydd a Warren Feeney adael Casnewydd yn ddiweddar.

'Angen newid'

Dywedodd John Mills ar ran y Bwrdd o Gyfarwyddwyr: "Roedd hwn yn benderfyniad anodd ond er ein bod wedi chwarae pêl-droed cyffrous ac adloniadol y tymor diwethaf, ein prif flaenoriaeth yw dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed a dydyn ni heb wneud digon i gyrraedd y nod yna.

"Ni lwyddon ni i gyrraedd y gemau ail gyfle y tymor diwethaf, ac rydyn ni ar y funud yn bell o arweinwyr y gynghrair gyda thraean o'r tymor wedi pasio eisoes.

"Rydyn ni felly wedi gwneud y penderfyniad anodd bod angen newid."

Dau aelod o'r tîm hyfforddi, Joey Jones ac Andy Davies, a'r cyn-gapten, Dean Keates fydd yn rheoli'r tîm ar gyfer eu gêm yn erbyn Stamford yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn.