Targed hinsawdd: Angen cynllun 'clir' i gyrraedd y nod

Ffatri Image copyright Reuters

Mae 'na rybudd y bydd Cymru'n methu â chyrraedd targedau blaenllaw i leihau allyriadau carbon os na fydd "cynllun gweithredu clir" yn cael ei gyflwyno.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn rheolaidd yn ystod y blynyddoedd diweddar eu bod yn dymuno gweld Cymru yn arwain y ffordd wrth daclo newid hinsawdd.

Ond yn ôl y grŵp ymgyrchu Atal Anrhefn Newid Hinsawdd (AANH) mae gweinidogion eto i weithredu, tra bod WWF Cymru'n gweld "bwlch yn yr uchelgais".

Mae'r ystadegau diweddara'n dangos i Gymru lwyddo lleihau allyriadau o 18% ers 1990, o'i gymharu â thoriad o 46% yn yr Alban.

Llynedd, yn Neddf Amgylchedd Llywodraeth Cymru, gosodwyd targed i ostwng allyriadau o 40% erbyn 2020.

Image caption Dywedodd Haf Elgar bod angen cynllun pendant ar draws pob un o adrannau Llywodraeth Cymru

"Yn sicr ry'n ni bell ar ei hôl hi ar hyn o bryd," yn ôl Haf Elgar, Cadeirydd AANH.

"Mae wir angen cynllun pendant arnom ni ar draws pob un o adrannau Llywodraeth Cymru ac mae'n rhaid i ni edrych ar bob penderfyniad a strategaeth. Nid dim ond mater i amgylcheddwyr na maes yr amgylchedd yw hyn - mae'n berthnasol ar draws pob adran."

Cyllideb carbon

Ychwanegodd Ms Elgar fod angen rhagor o fanylder ynglŷn â chyllidebau carbon, gafodd eu cyflwyno hefyd fel rhan o'r Ddeddf Amgylchedd.

"Ry'n ni o fewn cyfnod cyllideb carbon cyntaf Cymru - mae pob penderfyniad mae'r llywodraeth yn ei wneud yn cyfrannu tuag at faint o garbon ddyle ni fel cenedl fod yn ei allyrru dros y pedair blynedd nesa'," meddai.

"Dyle fod asesiad carbon yn cael ei gyhoeddi ar y cyd â phob strategaeth fawr y mae'r llywodraeth yn ei chyflwyno. Ond dy'n ni heb weld hynny eto."

Mae AANH a WWF Cymru ill dau yn dymuno gweld gweinidogion yn cyflwyno cynllun effeithlonrwydd ynni sylweddol, gan insiwleiddio degau o filoedd o dai.

Byddai hynny'n creu swyddi, yn lleihau tlodi tanwydd ac yn torri allyriadau, medden nhw - cyfuniad delfrydol.

Maen nhw hefyd yn galw am flaenoriaethu cynlluniau ynni adnewyddadwy a dod â diwedd i gynhyrchu tanwydd ffosil yng Nghymru.

Image copyright Getty Images

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo'n swyddogol i Gytundeb Paris ar newid hinsawdd.

Yn Rhagfyr 2015, roedd gweiniodgion o Gymru ymysg y rheini fynychodd cynhadledd COP 21 lle cytunodd arweinwyr byd i geisio atal tymhereddau byd eang rhag codi dros 2 selsiws.

Ers hynny mae 76 senedd wedi ymrwymo i'r gytundeb - gan gynnwys India, China, UDA a'r Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y bydd yn gwneud hefyd erbyn diwedd y flwyddyn.

Yn ôl Jill Evans, Aelod Senedd Ewrop dros Blaid Cymru, byddai rhoi'r cyfle i'r Cynulliad drafod y cytundeb ac ymrwymo iddo yn dangos bod Cymru'n "awyddus i arwain".

"Nid dim ond rhywbeth symbolaidd fydde hi, ond arwydd o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl y wlad i barhau i frwydro yn erbyn newid hinsawdd," meddai.

'Heriol iawn'

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i Lywodraeth San Steffan oedd ymrywmo i Gytundeb Paris yn swyddogol. Ond mynnodd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd Lesley Griffiths y gallai fod yn rhywbeth i'w drafod gan ei bod hi'n "bwysig ein bod ni'n dangos ein bod ni'n falch i chwarae ein rhan yn llawn".

Dywedodd ei bod wrthi'n cwrdd ag aelodau eraill y cabinet i drafod "sut y gellid lleihau allyriadau o fewn pob portffolio".

Fe wnaeth hi hefyd gadarnhau bod y targed i ostwng allyriadau 40% erbyn 2020 yn parhau, er y byddai'n "heriol iawn" ei gyrraedd.

Ond roedd Llywodraeth Cymru yn benderfynol o chwarae rôl allweddol wrth daclo newid hinsawdd, meddai.

Daw'r sylwadau wrth i elusenau amgylcheddol nodi Diwrnod Gwyrdd, gyda busnesau ac ysgolion ar hyd a lled Cymru'n cynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd.

Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at gynllun Maint Cymru, i ddiogelu ardaloedd o goedwig law trofannol yn Ne America ac Affrica.

Bydd y digwyddiad yn cael ei lansio yn Stadiwm Principality tra bod Canolfan y Mileniwm hefyd yn mynd i gael ei oleuo'n wyrdd am y dydd.