'Calon y parc'

Blaenau Ffestiniog; Yn y canol rhwng prydferthwch y Parc Cenedlaethol a'i threftadaeth ddiwydiannol Image copyright Andrew Hill

Ar 18 Hydref mae Parc Cenedlaethol Eryri yn 65 oed. Mae'n ardal drawiadol ac hardd sy'n cynnwys y rhan fwyaf o Wynedd.

Ond pan gafodd y Parc ei sefydlu yn 1951 cafodd nifer o drefi a phentrefi amlycaf yr ardal, gan gynnwys Blaenau Ffestiniog, eu gadael tu hwnt i'w ffiniau swyddogol.

Mae Blaenau yng nghanol ardal y Parc. Felly, a ddylai'r dre gael ei chynnwys o fewn y ffiniau?

'Harddwch unigryw'

Mae'r actor a'r cerddor Ceri Cunnington, gynt o'r grŵp Anweledig, wedi ei fagu yn yr ardal ac mae bellach yn gweithio yn y gymuned.

"Yn amlwg mae yna fanteision ac anfanteision i Blaenau fod yn rhan o'r Parc," meddai. "O safbwynt datblygu economaidd dwi'n meddwl mae'n well bod Blaenau ddim yn rhan ohono, oherwydd hawliau cynllunio ac ati. Er enghraifft, pan wnaethon ni'r llwybrau beics roedd o'n haws cael cais cynllunio.

"Mae'n lot haws cael caniatâd cynllunio i adeiladu tu allan y Parc na thu fewn. Ond mae yna reolau anneglur ynglŷn â be' sy'n dod o dan awdurdod y parciau cenedlaethol neu beidio.

"Mae 'na nifer o drefi 'di'u gadael allan o ymylon y Parc, ond mae Blaenau yn dwll ar y map. Dwi'n eitha' licio hyn - mae'n eitha' eironig achos mae 'na stori i'r peth ac mae 'na gyfle i farchnata'r lle gan fod Blaenau 'chydig bach yn wahanol i weddill y Parc.

"O ran harddwch y lle, wel dydi Blaenau ddim yn harddwch naturiol, mae'n harddwch diwydiannol ac unigryw. Fysa'n well gena'i i Blaenau fod yn rhan o safleoedd treftadaeth y byd, chwarelyddol, yn hytrach na'n rhan o barc cenedlaethol naturiol."

Image caption Blaenau: "Y twll yng nghanol y parc"

Sugno i mewn i'r Parc?

Mae Ceri yn awgrymu bod 'na fanteision i'r cymunedau tu hwnt i ffiniau'r Parc gydweithio efo'i gilydd i ddiogelu eu treftadaeth.

"Mae'r Ganolfan Dwristiaeth yn y dre yn cael ei gynnal gan y bobl leol ar liwt eu hunain. Mi roedd yna Ganolfan Dwristiaeth yn Blaenau a oedd yn cael ei redeg gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol tan tua chwe mlynedd yn ôl, ond wedyn wnaethon ni (Antur Stiniog) brynu'r adeilad ac agor canolfan dwristiaeth gymunedol yno.

"Roedden ni yn rhoi pwyslais ar dwristiaeth awyr agored gyda'r amgylchedd ar flaen ein meddyliau. Y gymuned oedd yn ei arwain ac mi roedden ni'n gweithio'n agos efo Awdurdod y Parc er doeddan ni ddim yn y Parc - mi gawsom ni rywfaint o arian gan y Parc i ddatblygu.

"Dwi'n credu mewn marchnata ac ati, ond dwi ddim yn credu y bysa fo'n gwneud gwahaniaeth enfawr y naill ffordd neu'r llall i Blaenau fod yn y Parc.

"Os bysa Blaenau a Llanberis yn dod yn rhan o'r Parc, efallai bysa fo'n rhoi hwb yn y tymor byr ond yn yr hir dymor ella 'sa ni'n cael ein sugno fewn i weddill y Parc.

Image copyright Stephen McKay
Image caption Mae'r trên bach yn denu miloedd o ymwelwyr i Blaenau Ffestiniog bob blwyddyn

"Dwi'n hoffi'r ffaith bod 'na dwll yng nghanol y Parc gan ei fod yno oherwydd ein hanes diwydiannol. Ond 'da ni'n ganolbwynt yn Blaenau, a dwi'n licio meddwl am Blaenau nid fel y twll yn y Parc, ond fel calon y Parc.

"Dwi'n meddwl bod yna fudd mawr mewn gweithio gydag ardaloedd chwarelyddol eraill yng ngogledd Cymru i ddweud ein stori ni - mae'n stori gryfach yn rhan o'r bartneriaeth yna, yn fwy na bod yn aelod o'r Parc Cenedlaethol.

"Mae 'na gais wedi'w wneud gan Gyngor Gwynedd i'r ardaloedd chwarelyddol yn y gogledd gael eu gwneud yn Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Dwi'n meddwl y byddai hynny'n hwb enfawr i Blaenau ac i ambell ardal arall yma yn y gogledd."

Datblygu economaidd

Wrth i'r Parc Cenedlaethol ddathlu ei ben-blwydd yn 65 oed mae Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn edrych ymlaen at yr heriau sy'n wynebu un o ardaloedd prydferthaf Cymru.

Mae'n gweld cyfle hefyd i gydweithio'n agosach gyda chymunedau fel Blaenau Ffestiniog na chafodd eu cynnwys o fewn y ffiniau nôl yn 1951.

"Cafodd ardaloedd Llanberis, Blaenau Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Bethesda, Tywyn ac Abermaw eu heithrio o'r Parc yn 1951 ar sail rhesymau economaidd," meddai.

Yn sgil datblygiadau diweddar mewn treftadaeth a hamdden ym Mlaenau Ffestiniog a Llanberis, mae'r ddwy gymuned wedi gwneud cais i fod yn rhan o'r Parc.

Image copyright Antur Stiniog
Image caption Ai rhagor o weithgareddau awyr agored yw'r ffordd i ddenu rhagor o ymwelwyr i Flaenau Ffestiniog?

"Gyda'r Adolygiad Tirweddau'r Dyfodol ar y gweill, mae'n gynyddol bwysig ein bod yn cyflawni tu hwnt i ffiniau daearyddol y Parc," ychwanegodd Emyr Williams.

"Yn sgil yr adolygiad hwn, mae'n bosib y bydd amcanion y Parc Cenedlaethol yn ehangu i gynnwys datblygu economaidd. Byddai hynny yn help i gynnal rhinweddau arbennig y Parc a rheoli adnoddau naturiol. Petai hyn yn digwydd, mi fyddai hi'n synhwyrol i ni weithio'n agosach â'r cymunedau sydd ar gyrion y Parc.

"Mae'r rhagolygon ar gyfer dyfodol y Parc yn gyffrous. Mae cyfle gwirioneddol i feithrin Parciau Cenedlaethol sy'n bwrpasol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a sy'n cyfrannu at agenda ehangach, gan gynnwys iechyd a lles y genedl.

"Dros y 65 mlynedd diwethaf, mae'r heriau sy'n wynebu Parc Cenedlaethol Eryri wedi dwysáu ond daeth llawer o gyfleoedd hefyd o warchod ardal mor arbennig."