Dawn fy nhad

Catrin Arwel yw ffotograffydd gwadd Cymru Fyw am fis Hydref. Mae Catrin yn wyneb cyafrwydd fel actores ond nawr mae hi hefyd yn gwneud enw iddi ei hun tu ôl i'r camera.

Mae hi yn dilyn ôl troed ei thad, Arwel Davies, sy'n ffotograffydd proffesiynol yng Nghaerfyrddin.

Mae'r ddau yn trafod eu cariad at y camera yn Etifeddiaeth ar BBC Radio Cymru, dydd Llun, 17 Hydref am 12:

Yn y cyfamser dyma i chi gyfle i fwynhau rhai o luniau trawiadol Catrin:


Llun o fy nghasgliad o wynebau enwog Cymru. Dyma Jonathan Pryce yn ei 'stafell newid yn y Globe wrth iddo baratoi fel y cymeriad Shylock yn The Merchant of Venice.


Image caption Lisa Palfrey

Head shot o'r hyfryd Lisa Palfrey. Actores, cymydog a fy ffrind!


Newydd briodi! Kate a Dave tu fas i Neuadd y Dref Chelsea ar ôl eu seremoni.


Yr hyfryd Connie Fisher wrth iddi ganu ar lwyfan y London Palladium am y tro cynta 'ddar The Sound of Music.


Twinnie yw hon a dyma un o'r llunie ar gyfer ei EP newydd. Bydd rhai ohonoch chi yn ei 'nabod fel Porsche o Hollyoaks efallai!


Adam Lyons - Llun clawr ei EP newydd o'r enw Grown.


Llun arall o fy nghasgliad o wynebau enwog Cymru. Dyma'r gantores Rebecca Trehearn yn paratoi ar gyfer Floyd Collins yn Wilton's Music Hall, Llundain.


Image caption Rhys ap Wiliam

Yr actor Rhys ap William tu ôl y llwyfan yn Arcola Theatre Llundain tra'n teithio gyda'r ddrama - Crouch, Touch, Pause, Engage. Mae hwn un un arall o'r casgliad wynebau enwog Cymru.


Soul Waqif yn Doha - Dwi'n ffodus dros ben i gael teithio lot gyda fy ngwaith. Lle digon od ond un sy' â lle sbeshal yn fy nghalon.


Souq Waqif yn Doha. Llawn lliw, arogle, bwrlwm a chyffro!


Mae digon o fargeinion i'w cael yma!


Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Etifeddu'r ddawn o dynnu lluniau

Etifeddiaeth, BBC Radio Cymru, dydd Llun, 17 Hydref, 12:30