Y diciâu: Melltith cefn gwlad ers degawdau

Dydd Mawrth fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn â'r diciâu. Mae'n fater tanboeth gyda theimladau cryf ar y ddwy ochr. Steffan Messenger sydd yn ein hatgoffa o'r hanes.

Mae'n felltith sydd yn llechu yng nghefn gwlad.

Am ddegawdau mae'r diciâu wedi peryglu bywoliaeth nifer yng Nghymru wledig, gan olygu bod degau o filoedd o wartheg wedi gorfod cael eu lladd.

Mae'r clefyd hefyd wedi golygu geiriau chwerw rhwng ymgyrchwyr am y ffordd gorau i daclo'r broblem.

Ac mae'r ddadl honno yn debyg o godi ei phen eto ddydd Mawrth wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi "dull newydd" i ymladd yr afiechyd.

Maen nhw wedi addo targedu gwahanol ardaloedd yng Nghymru a defnyddio'r mesurau rheoli "mwyaf effeithiol ac addas".

Mae arweinwyr yn y gymuned ffermio eisiau gweld difa moch daear yn rhan o'r cynllun newydd, rhywbeth y mae sefydliadau bywyd gwyllt yn gwrthwynebu'n chwyrn.

Ar hyn o bryd mae profion cyson yn digwydd a chyfyngiadau ar symud gwartheg.

Ers i'r llywodraeth gyflwyno'r rhaglen yn 2008 mae lleihad o 37% wedi bod yn y nifer o wartheg sydd yn cael TB.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Meurig Harries sydd yn sôn am yr effaith o golli gwartheg

Ond mae'r mater yn fwy o broblem mewn rhai ardaloedd gyda lefelau uwch yng nghanolbarth Cymru a ger y ffin.

Mae nifer y gwartheg sydd wedi eu lladd yn y blynyddoedd diwethaf hefyd wedi bod yn destun pryder o fewn y gymuned amaeth.

Cafodd 8,103 o wartheg eu lladd oherwydd diciâu yn 2015. 6,378 oedd y ffigwr yn 2014.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae hyn o achos profion mwy caeth a sensitif.

Saga hir

Dadl yr undebau ffermio yw ei bod hi'n ddibwrpas parhau i ladd y gwartheg heb daclo'r moch daear sydd yn cario'r clefyd.

Mae'r cwestiwn a ddylid difa moch daear wedi bod yn saga hir.

Cafodd y cynlluniau eu hepgor yn 2012 gyda phrosiect brechu pum mlynedd yng ngogledd Sir Benfro yn cael ei ffafrio.

Ond mae yna oedi wedi bod am fod yna brinder brechiadau byd eang.

Mae'r angen am "weithredu cryf" i gael gwared â'r afiechyd yn fwy o fater o frys am fod Prydain wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd meddai Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru.

Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon mae difa moch daear yn digwydd mewn ardaloedd sydd wedi eu heffeithio yn ddrwg gan y diciâu ac mae'r Alban wedi llwyddo i gael gwared â'r clefyd ers 2009.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Alan Davies o Undeb Amaethwyr Cymru yn trafod gobeithion ffermwyr

Does yna ddim tystiolaeth bod difa moch daear yn gweithio meddai'r rhai sydd yn gwrthwynebu.

Yn ôl yr Athro Rosie Woodroffe, o Gymdeithas Sŵoleg Llundain mae Llywodraeth Cymru wedi "arwain" ar y mater ym Mhrydain gan ddefnyddio tystiolaeth wyddonol wrth lunio polisïau.

"Maen nhw wedi gwneud gwaith gwych ac mae Lloegr yn eiddigeddus o'r ffordd maen nhw wedi torri lawr ar nifer yr achosion o wartheg sydd yn pasio'r clefyd ymlaen i'w gilydd, sydd yn gyfrifol am 94% o achosion newydd o TB," meddai.

"Dw i'n gwybod bod yna bwysau i ddifa moch daear yng Nghymru ond dw i'n credu byddai hynny yn gam yn ôl."

Mae ymchwil newydd gan yr Athro Woodroffe a'i thîm mewn sawl lleoliad yng Nghernyw yn awgrymu bod y clefyd yn ymledu mewn gwartheg ar ôl iddyn nhw ddod i gyswllt gydag ysgarthion ac wrin sydd wedi eu heintio, yn hytrach na dod i gysylltiad uniongyrchol gyda moch daear.

Gobeithio datrys 'hen broblem'

Mae'n honni y gallai'r canfyddiadau gael oblygiadau mawr i ffermwyr yn y ffordd maent yn trin yr amgylchedd ar eu tir.

"Mae TB yn broblem enfawr, gronig i ffermwyr, sydd yn achosi dioddefaint go iawn. Technoleg yw'r rheswm pam ein bod ni ar ddechrau'r daith er mwyn deall sut mae'r afiechyd yn cael ei gludo."

"Mae'r gwaith newydd rydyn ni yn gwneud yn edrych ar y bacteria yn yr amgylchedd ddim ond yn bosib oherwydd technegau modern.

"Gobeithio y bydd y dulliau ymchwil newydd yma yn ein helpu i ddatrys hen broblem a gwneud pethau yn well i ffermwyr."

Mae'r diciâu wedi bod yn un o'r sagas hiraf sydd wedi wynebu'r Cynulliad Cenedlaethol.

  • 2005 - Cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer lles ac iechyd anifeiliaid yn cael ei ddatganoli. Prif filfeddyg Cymru yn cael ei phenodi, yr Athro Christianne Glossop.
  • 2006 - Mae'r ddeddfwriaeth ar gyfer diciâu yng Nghymru yn dod i rym. Profi gwartheg cyn iddyn nhw gael eu symud yn dod yn rhywbeth gorfodol.
  • 2008 - Rhaglen dileu TB mewn Gwartheg yn cychwyn. Cynllun difa moch daear yn cael ei gyhoeddi gyda'r llywodraeth glymbleidiol ar y pryd, Plaid Cymru a Llafur.
  • 2009 - Y Gweinidog Amaeth Elin Jones yn cyhoeddi y bydd y difa yn digwydd mewn ardal lle mae lefelau uchel o'r diciâu yng ngorllewin Cymru. Mae'n dweud wrth y Cynulliad bod y clefyd "allan o reolaeth" yng Nghymru.
  • 2010 - Y difa yn cael ei ddileu yn y Llys Apêl am fod y cynllun yn un allai gael ei ddefnyddio ar draws Cymru, pan mae tystiolaeth o ymgynghoriad ond yn cefnogi difa mewn ardal ddwys.
  • 2011 - Llywodraeth Lafur sydd newydd ei hethol yn oedi ar y cynllun o ddifa ac yn comisiynu adolygiad o'r wyddoniaeth.
  • 2012 - Llywodraeth Cymru yn rhoi'r gorau i'r cynllun difa, gan gyhoeddi prosiect brechu pum mlynedd mewn ardaloedd dwys yn Ne Orllewin Cymru. Unedau ffermwyr yn dweud eu bod wedi eu "bradychu" ond yr RSPCA "wrth ei bodd".
  • 2015 - Treial brechu yn Sir Benfro yn cael ei ohirio am fod yna brinder byd-eang o frechiadau TB.
  • 2016 - Prif filfeddyg Cymru, yr Athro Christianne Glossop yn dweud wrth BBC Cymru mai diciâu mewn gwartheg yw'r "broblem fwyaf" i wynebu iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru mewn cenhedlaeth. Undebau ffermwyr yn galw unwaith eto am ddifa moch daear.