Democratiaid Rhyddfrydol: 'Yr unig blaid oddefgar'

Mark Williams
Image caption Mark Williams yw unig AS y blaid yng Nghymru

Bydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dweud wrth aelodau yn Wrecsam ddydd Sadwrn mai nhw yw'r unig blaid sy'n brwydro dros "oddefgarwch ac undod".

Yng nghynhadledd hydref y blaid, bydd Mark Williams AS yn honni bod "pobl ddogmatig sy'n parhau i godi bwganod" am Brexit wedi meddiannu Llywodraeth y DU.

Bydd AS Ceredigion hefyd yn dweud bod Llafur wedi methu cynrychioli "ein cenedl a'n cymunedau".

Ar hyn o bryd, mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol un aelod o Gymru yn San Steffan - sef eu harweinydd - ac un aelod yn y Cynulliad - y cyn-arweinydd a'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.

Brynhawn dydd Sadwrn, bydd Mr Williams hefyd yn annog Rhyddfrydwyr i "godi... a brwydro dros y gwerthoedd a'r credoau 'dyn ni'n eu trysori".