Yr Alban: Wedi Brexit, ail refferendwm ar annibyniaeth?

Nicola Sturgeon yn annerch y gynhadledd
Image caption Nicola Sturgeon yn annerch y gynhadledd

Cadarnle gwleidyddol ydi Glasgow.

Ond lle unwaith y bu'r Blaid Lafur yn teyrnasu, dŵr melyn sy'n llifo lawr yr Afon Clyde erbyn hyn.

Does dim dwywaith bod yr SNP wedi achosi daeargryn gwleidyddol ar draws yr Alban dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a Glasgow yw'r canolbwynt - enillodd y blaid bob un sedd etholaethol yn y ddinas yn yr etholiad cyffredinol y llynedd ac etholiad Senedd yr Alban eleni.

Dyma hefyd yr ardal lle bleidleisiodd y nifer fwyaf o bobl dros annibyniaeth i'r wlad 'nôl yn 2014.

Ond er gwaethaf eu methiant ddwy flynedd yn ôl, mae cefnogwyr annibyniaeth i'r Alban, gan gynnwys aelodau'r SNP sydd wedi ymgynnull yn Glasgow ar gyfer cynhadledd flynyddol y blaid yr wythnos hon, yn mynnu bod y freuddwyd yn parhau yn fyw ac wedi cael hwb yn dilyn y bleidlais dros Brexit.

Ymgynghori ar refferendwm

Er bod Cymru, Lloegr a'r Deyrnas Unedig gyfan wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, pleidleisio i aros wnaeth 62% o Albanwyr.

Fe ddywedodd maniffesto'r SNP ar gyfer etholiad Holyrood ym mis Mai y byddai angen "newid sylweddol" cyn y byddai ail refferendwm yn cael ei hystyried - Brexit, ym marn y blaid, yw'r newid hwnnw.

Yn ei haraith agoriadol i'r gynhadledd, roedd gan Nicola Sturgeon y rhybudd yma i'r Prif Weinidog Theresa May: os nad yw buddiannau'r Alban yn cael eu gwarchod gan Brexit, fe fyddai hi'n ystyried pob opsiwn, gan gynnwys ail refferendwm.

I'r perwyl hynny, fe gyhoeddodd y bydd ymgynghoriad ar Fesur Refferendwm Annibyniaeth yn cael ei gyflwyno'r wythnos nesaf - cam technegol er mwyn creu'r fframwaith angenrheidiol fel bod yna bosibilrwydd iddi allu galw pleidlais.

Does bosib bod cyhoeddiad am ymgynghoriad wedi derbyn y fath groeso o'r blaen.

Image caption Cyn arweinydd yr SNP, Alex Salmond, wedi'i arfarwoli mewn darlun yn Glasgow

Mae gan Nicola Sturgeon sawl galwad o ran y broses Brexit, ond mynediad i farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd yw'r prif beth iddi.

Ond ar hyn o bryd o leiaf, yr awgrym yw y bydd llywodraeth Theresa May yn mynd am 'Brexit caled' - hynny yw, datgysylltu'n gyfan gwbl o'r Undeb Ewropeaidd a'r farchnad sengl.

Er hynny, mae yna ddau rwystr amlwg cyn cynnal refferendwm arall.

Yn gyfansoddiadol, fe fydd angen sêl bendith llywodraeth San Steffan cyn gallu galw pleidlais.

Yn wleidyddol, mae'r arolygon barn yn awgrymu ar hyn o bryd y byddai Albanwyr yn cefnogi peidio gadael y Deyrnas Unedig.

Image caption Mae Gwen Jones yn poeni am ddyfodol Cymru

"Dwi'n meddwl y bydd Nicola Sturgeon yn gwneud yn sicr ei bod hi'n mynd i ennill refferendwm achos fydd hi ddim yn bosib iddi osod refferendwm arall a'i golli."

Dyna farn Gwen Jones - cyn-feddyg sydd yn wreiddiol o Gaerdydd ond yn byw ger Loch Lomond erbyn hyn.

"Dwi bron yn sicr bydd na refferendwm yn y pen draw ond mae'r amseriad yn bwysig iawn," meddai.

Er bod Gwen yn gefnogol iawn i annibyniaeth i'r Alban, mae hi'n "poeni'n ddirfawr am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i Gymru."

"Dwi'n poeni achos dwi'n gweld dyfodol llwm i Gymru ac efallai dim dyfodol i Gymru", meddai.

Roedd Heulyn Jones ar ochr arall y ddadl - pleidleisio 'Na' wnaeth y gŵr o Gaerfyrddin sydd bellach yn gweithio yn adran wyddoniaeth Prifysgol Strathclyde yn Glasgow.

"Roedd y refferendwm i fod yn rhywbeth unwaith mewn cenhedlaeth ond mae'r sefyllfa wedi newid cymaint nawr a gan fod y mwyafrif o bobl yr Alban wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, dwi'n gweld ei phwynt hi bod lle i gael gofyn am refferendwm arall," meddai.

"Bydden i'n newid fy mhleidlais, achos yn barod mae'n risg mawr i adael yr Undeb Ewropeaidd."

Dyna farn dau o Gymru ar ddyfodol yr Alban a'r Deyrnas Unedig, felly - ond dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd os cawn nhw'r cyfle i fwrw pleidlais ar y mater unwaith eto.