Caerdydd 2 - 1 Bristol City

Peter Wittingham Image copyright Huw Evans picture agency

Fe oedd 'na ddechrau cadarnhaol i gyfnod Neil Warnock fel rheolwr Caerdydd gyda buddugoliaeth dros Bristol City.

Fe aeth yr Adar Gleision ar y blaen ar ôl 25 munud, diolch i gic o'r smotyn gan Peter Wittingham.

Sol Bamba sgoriodd yr ail, yn ei gêm gyntaf i'r clwb.

Roedd 'na lygedyn o obaith i'r ymwelwyr pan sgoriodd Lee Tomlin - ond y tîm cartref aeth â hi, ac maen nhw nawr yn 19fed yn y tabl.