Gwobr i Fae Colwyn yng ngwobrau Britain in Bloom

Gerddi'r Frenhines Image copyright Cyngor Tref Bae Colwyn
Image caption Gerddi'r Frenhines ym Mae Colwyn

Mae tref Bae Colwyn wedi cael ei gwobrwyo am safon ei gerddi a'i mannau gwyrdd yng ngwobrau Britain in Bloom.

Yn y seremoni nos Wener yn Birmingham, fe enillodd y dref y wobr arian yng nghategori'r Trefi Mawr.

Cafodd ardal Llandudno ei chydnabod hefyd, gan gipio gwobr arian fel un o'r Cymunedau Trefol gorau.

Roedd gwobrau arian hefyd i Ddinbych y Pysgod yng nghategori'r Trefi Arfordirol â llai na 12,000 o bobl - a chymuned Matharn, Pwllmeurig a Mounton yn Sir Fynwy yng nghategori'r Pentrefi.