Adran 2: Yeovil 1-0 Casnewydd

Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency

Cafodd Casnewydd eu trechu yng ngêm gyntaf Graham Westley fel rheolwr wrth i Yeovil eu cadw ar waelod y gynghrair bêl-droed.

Roedd hi'n gêm o ychydig o gyfleoedd, ond llwyddodd y tîm cartref i sgorio gyda 10 munud yn weddill wrth i'r amddiffynnwr Dan Butler rwydo i'w gôl ei hun.

Dim ond ddwywaith y llwyddodd yr ymwelwyr i brofi golwr Yeovil trwy'r 90 munud.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros ar waelod Adran 2 ar ôl ennill un gêm yn unig drwy'r tymor.