Cwpan FA Lloegr: Stamford 1-1 Wrecsam

Wrecsam Image copyright Rex Features

Cafodd Wrecsam eu cadw i gêm gyfartal yn erbyn Stamford, o dair cynghrair yn is, yng Nghwpan FA Lloegr.

Wedi i Gary Mills gael ei ddiswyddo yn gynharach yn yr wythnos, roedd y clwb yn parhau heb reolwr parhaol i deithio i Stamford.

Er hynny, Wrecsam aeth ar y blaen ar ôl chwe munud yn unig gyda gôl gan Shaun Harrad.

Ond mae cic o'r smotyn Lee Beeson yn yr ail hanner yn golygu y bydd angen ail gêm ar y Cae Ras i benderfynu pwy fydd yn mynd 'mlaen i'r rownd nesaf.