Cwpan Pencampwyr Ewrop: Scarlets 28-11 Sale

Scarlets Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd y Scarlets i ennill eu gêm gyntaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor yma gan drechu Sale ym Mharc y Scarlets.

Fe wnaeth mewnwr Cymru, Gareth Davies ac asgellwr Canada, DTH van der Merwe sgorio ceisiau yn yr hanner cyntaf, ond dim ond van der Merwe lwyddodd i sgorio mewn ail hanner sâl i'r Scarlets.

Ond fe wnaeth 13 pwynt o droed Rhys Patchell helpu'r tîm cartref i gadw rheolaeth o'r gêm.

Y bachwr Neil Briggs yn yr hanner cyntaf wnaeth sgorio unig gais yr ymwelwyr, gyda Dan Mugford yn ychwanegu dwy gic gosb.