Cyllideb: Plaid a Llafur yn cytuno bargen gwerth £119m

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
"Sefydlogrwydd" yn ganolog i'r gyllideb medd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford

Fe fydd arian ychwanegol ar gael i wario ar iechyd, colegau, cynghorau a'r iaith Gymraeg wedi i Blaid Cymru gytuno ar fargen gwerth £119m gyda'r llywodraeth Lafur.

Heb fwyafrif, mae angen i Lywodraeth Cymru ennill peth cefnogaeth y gwrthbleidiau er mwyn pasio'u cynlluniau gwario gwerth £15bn.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wrth BBC Cymru ddydd Llun, fod bargen wedi ei tharo.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford AC, fod y cytundeb yn "rhoi hwb" i flaenoriaethau allweddol, wrth iddo baratoi i ddatgelu mwy o fanylion ddydd Mawrth.

Fodd bynnag, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r fargen, gan ddweud mai nhw yw "gwrthwynebiad go iawn" Llafur.

Image caption Rhai o'r meysydd y bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn eu hariannu

Cynhaliwyd trafodaethau cyllideb ôl-etholiadol yn gynharach eleni, wrth i Plaid gynorthwyo Carwyn Jones i barhau yn ei swydd fel prif weinidog.

Mae'r arian ychwanegol ar gyfer iechyd yn cynnwys hwb i hyfforddiant meddygol, iechyd meddwl ac offer diagnostig newydd.

Dywed Plaid Cymru fod y toriadau disgwyliedig i gynghorau lleol - oedd ostyngiad cyllidebol o 2% y llynedd - wedi cael eu canslo eleni.

Mae mesurau eraill yn cynnwys astudiaeth i ailagor y llinell reilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, a gweithredu yn gyflymach wrth adeiladu ffordd osgoi ar gyfer Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.

Dydd Llun, dywedodd Leanne Wood fod y fargen yn arwydd o sut oedd Plaid Cymru yn cydweithio gyda Llafur, yn dilyn beirniadaeth gan yr Arglwydd Elis-Thomas dros agwedd y blaid tuag at y llywodraeth. Dywedodd yr AC dros Ddwyfor Meirionnydd ddydd Gwener fod gan y Blaid record "ddifrifol" am weithio gyda Llafur.


Dadansoddiad Arwyn Jones, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru.

Mae gweinidgion yn Mae Caerdydd yn gyfrifol am wario £14.6bn-£14.8bn, sy'n dod o goffrau'r trysorlys yn San Steffan.

Mae hi'n anodd darogan yr union fanylion, ond eleni mae ganddon ni syniad go lew.

Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i gynyddu darpariaeth gofal plant am ddim i drideg awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn i blant tair a phedair oed, i helpu rhieni ddychwelyd i'r gwaith.

Mae yna bryder na fydd amcangyfrif y gost - £84m y flwyddyn - yn ddigon.

I blant hŷn mi fydd yna newydd da hefyd, addewid o £100m i wella ysgolion.

Mae yna ddisgwyl hefyd y bydd cynnydd yn nifer y prentisiaethau - 100,000 dros y pum mlynedd nesaf.

Mi fydd yna gost, wrth gwrs, i hynny.

Ac er bod y cynnydd mewn prentisiaethau i'w groesawu, mae yna bryder y bydd toriadau pellach ar gyrsiau eraill mewn colegau addysg bellach.

A dyna'r broblem i'r llywodraeth heddiw. Mae'r pwrs cyhoeddus yn dynn iawn.

Os ydy'r ysgrifennydd cyllid, Mark Drakeford am wario mwy ar rai maesydd, mi fydd angen torri gwariant ar eraill.

Ar ben hynny, mae yna bwysau gwleidyddol parhaus i roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd, yn enwedig o gofio adroddiadau yr wythnos diwethaf am ddiffyg arian y gwasanaeth.

Mae'r cynllun i gefnogi ardaloedd tlotaf Cymru, Cymunedau'n Gyntaf, eisoes wedi mynd gan arbed £30 miliwn y flwyddyn.

Ond mi fydd angen cadw llygad barcud i weld lle arall fydd y fwyell yn cwympo.

Felly am y tro mi fydd yn rhaid i ysgolion, ysbytai, cynghorau a ni'r trethdalwyr, aros i weld beth ddaw.