Carchar i ddyn o Wrecsam am gynllwyn dwyn aur

Llys a Doran Image copyright BBC/Heddlu Gogledd Cymru

Mae aelod o griw o ladron oedd yn targedu'r gymuned Asiaidd wedi cael ei garcharu.

Roedd Patrick Doran, 30 oed, wedi cyfaddef ei fod yn rhan o'r cynllwyn i ddwyn aur o gartrefi Asiaidd mewn ardaloedd yn Lloegr.

Fe bledioedd yn euog hefyd i ladrad arall yn Wolverhampton.

Cafodd bedair mlynedd dan glo.

Roedd rhai o'r cynllwynwyr eraill eisoes wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o dros 40 mlynedd yn y carchar..

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrth Lys y Goron yr Wyddgrug bod y cynllwyn wedi "achosi pryder i'r gymuned Asiaidd".

Roedd Doran yn byw yn Wrecsam pan gyflawnodd y troseddau.

Straeon perthnasol