Cyllideb Cymru: Beth allwn ni ddisgwyl?

Notes Image copyright EPA

Bydd aelodau'r Cynulliad yn ymgynnull brynhawn dydd Mawrth am un o gyhoeddiadau pwysicaf calendr y Cynulliad, sef Cyllideb Cymru.

Bydd Mark Drakeford yn cyflwyno cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf ers iddo gael ei benodi'n Ysgrifennydd Cyllid.

Yng nghyllideb diwethaf Cymru - ar gyfer 2016-17 - fe welwyd toriadau i awdurdodau lleol ond mwy o arian ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac i addysg.

Fel yn y blynyddoedd diweddar, mae'r cynllun eleni yn debyg o fod yn awgrym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu dosbarthu'r arian sy'n dod o San Steffan - pot o arian sy'n crebachu'n flynyddol.

A fydd mwy o doriadau?

Roedd cyfanswm cyllideb y llynedd bron yn union £15 biliwn, ond ar gyfer 2017-18 rydym yn disgwyl i hynny leihau i rhywle rhwng £14.6bn a £14,8bn.

Mae hynny'n golygu rhwng £200m a £400m yn llai i wario.

Mae'n anochel felly y bydd toriadau mewn rhannau o gyllideb Llywodraeth Cymru.

Dyma fydd y gyllideb olaf lla nad oes gan Lywodraeth Cymru y gallu i godi arian ei hun drwy drethi - erbyn 2018 bydd rhai trethi megis treth stamp a thirlenwi wedi eu datganoli.

Ar wahan i rhyw ychydig o drethi busnes felly, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn ei chyllid i gyd gan lywodraeth y DU.

Beth sy'n rhaid i Lafur dalu amdano?

Image copyright Welsh Labour
Image caption Carwyn Jones yn lansio maniffesto Llafur cyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai

Yn etholiad y Cynulliad fe wnaeth Llafur - y blaid fwyaf sy'n arwain llywodraeth sydd hefyd yn cynnwys un Democrat Rhyddfrydol - restr o addewidion sy'n rhaid talu amdanynt.

Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu polisi o 'ennill un - colli un' yn golygu bod gwario ar rywbeth newydd yn golygu diddymu rhywbeth arall er mwyn talu amdano.

Ychydig wythnosau yn ôl fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai Llafur yn cadw at eu haddewidion, ond rhybuddiodd y byddai toriadau.

Mae rhaglen lywodraethu pum mlynedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • 30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos i rieni plant tair a phedair oed;
  • 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed;
  • Torri trethi busnes i fusnesau bach;
  • Gwell mynediad i feddygfeydd meddygon teulu a chronfa ar gyfer triniaethau newydd.

Beth sy'n debyg o osgoi'r fwyell?

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae GIG Cymru yn un adran lle mae disgwyl cynnydd mewn gwariant

Mae gweinidogion wastad o dan bwysau i gyllido'r GIG, ac fe allwn ni weld hwb i iechyd yn y gyllideb.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth arbenigwyr rybuddio y gallai GIG Cymru wynebu twll du o £700 miliwn yn ei chyllideb ymhen cyn lleied â thair blynedd.

Fe gafodd yr arian i'r GIG ei gwtogi yn 2010 ac am dair blynedd wedi hynny - gan arwain at feirniadaeth lem - ond yn fwy diweddar mae'r gyllideb wedi cynyddu eto.

Ar hyn o bryd mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cymryd 48% o gyllideb Llywodraeth Cymru.

Ai dyma'r flwyddyn y gwelwn ni'r canran o wariant ar iechyd yn cyrraedd 50% - neu fwy?

Yn y cyfamser mae llywodraeth leol yn lobïo i beidio gweld toriadau pellach i gynghorau.

Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gwtogi'r arian i gynghorau o 2%, ond roedden nhw'n teimlo bod hynny'n hael o gymharu â'r hyn ddigwyddodd yn Lloegr.

O ystyried y gallai Llafur wynebu ambell frwyr galed yn etholiadau'r cynngor fis Mai nesaf, mae'n bosib y gallai cynghorau sir gael ysbaid heb fwy o doriadau y tro hwn.

Beth fydd yn cael ei dorri'n llwyr?

Image copyright Christopher Furlong/Getty Images
Image caption Roedd Port Talbot yn un o'r ardaloedd lle cafodd arian Cymunedau'n Gyntaf ei wario

Rydym eisoes wedi clywed bod cynllun Cymunedau'n Gyntaf - sy'n werth £30 miliwn y flwyddyn - yn mynd i gael ei ddiddymu.

Bu'r cynllun yn arwain ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo tlodi am 15 mlynedd, ond dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau Carl Sargeant nad oedd yn teimlo ei fod yn effeithiol bellach.

Mae digon o adrannau eraill allai weld catogiad yn eu cyllidebau - addysg bellach, datblygu economaidd ac efallai adnoddau naturiol.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi mynegi amheuaeth ac effeithiolrwydd Her Ysgolion Cymru - cronfa sydd wedi'i hanelu at ysgolion sy'n tangyflawni. Tybed fydd y cynllun £20 miliwn yn dod i ben?

A fydd Llywodraeth Cymru cael sêl bendith y Cynulliad i'r gyllideb?

Er na wnaeth Llafur ennill mwyafrif yn etholiad y Cynulliad, maen nhw eisoes wedi sicrhau cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol (Kirsty Williams, sy'n aelod o'r cabinet) a Phlaid Cymru.

Ddydd Llun dywedodd Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, ei bod wedi cynnal trafodaethau gyda Llafur, a dywedodd:

"Roedd y trafodaethau'n gynhyrchiol, ac rwy'n hapus iawn gyda'r cytundeb rhyngom a'r llywodrateh Lafur.

"Dydw i ddim yn gallu rhoi manylion ar hyn o bryd, ond mae digon i ddangos bod blaenoriaethau Plaid Cymru wedi cael ei cyflawni."