Digwyddiad M4: Dyn yn yr ysbyty

m4 Image copyright Traffic Cymru

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag "anafiadau difrifol" yn dilyn digwyddiad ar yr M4 yng Nghasnewydd.

Roedd yn rhaid i'r draffordd gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cyffordd 24, Coldra, a chyffordd 28, Parc Tredegar, am tua 08:45, wrth i'r heddlu a'r ambiwlans awyr gael eu galw i'r safle.

Fe gafodd y ffordd tua'r dwyrain ei hail agor am 09:10, ac yna'r lôn tua'r gorllewin awr yn ddiweddarach.

Mae'r dyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi derbyn galwad am tua 8:20 yn dilyn pryderon am ddiogelwch y dyn ger twnneli Bryn-glas.