Cymru'n cynnwys Faletau yng ngharfan gemau'r hydref

Taulupe Faletau Image copyright Rex Features

Mae Rob Howley wedi enwi carfan rygbi Cymru ar gyfer eu gemau yng nghyfres yr hydref ym mis Tachwedd.

Fe fydd Leigh Halfpenny, Dan Lydiate ac Alex Cuthbert yn dychwelyd ar ôl methu'r daith i Seland Newydd yn yr haf.

Mae Howley, sydd yn gyfrifol am y tîm tra bod Warren Gatland yn paratoi ar gyfer taith y Llewod yn 2017, hefyd wedi galw'r blaenwyr Rhys Gill, Scott Andrews, Nicky Smith a Dan Baker yn ôl i'r garfan.

Mae'r garfan hefyd yn cynnwys dau o chwaraewyr y Gweilch sydd eto i ennill eu cap cyntaf dros Gymru - y clo Rory Thornton, a'r maswr Sam Davies.

George North, Jamie Roberts a Taulupe Faletau yw'r tri sydd wedi cael eu cynnwys yn y garfan yn unol â Rheol Gatland, sydd yn cyfyngu'r nifer o chwaraewyr o glybiau y tu hwnt i Gymru sydd yn gymwys i gael eu dewis.

Cafodd Faletau ei enwi er ei fod yn dioddef o anaf i'w ben-glin ar hyn o bryd, a hynny yn golygu nad oedd Howley'n medru enwi'r maswr Rhys Priestland gan ei fod yntau hefyd yn un o'r chwaraewyr sydd yn disgyn o dan Reol Gatland.

Sam Warburton fydd y capten unwaith eto ar gyfer y gyfres, fydd yn gweld Cymru'n croesawu Awstralia, yr Ariannin, Japan a De Affrica i Gaerdydd ym mis Tachwedd.


Carfan Cymru'n llawn

Blaenwyr: Scott Andrews, Tomas Francis, Rhys Gill, Gethin Jenkins, Samson Lee, Nicky Smith, Scott Baldwin, Kristian Dacey, Ken Owens, Jake Ball, Luke Charteris, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Rory Thornton, Dan Baker, Taulupe Faletau, James King, Dan Lydiate, Ross Moriarty, Justin Tipuric, Sam Warburton (capten)

Olwyr: Gareth Davies, Rhys Webb, Lloyd Williams, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Sam Davies, Jonathan Davies, Tyler Morgan, Jamie Roberts, Scott Williams, Hallam Amos, Alex Cuthbert, Leigh Halfpenny, George North, Liam Williams