Ystyried difa moch daear i daclo'r diciâu yng Nghymru

mochyn daear Image copyright Science Photo Library

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynlluniau allai ganiatáu difa moch daear sy'n cario'r diciâu, mewn ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan yr afiechyd.

Gallai hynny olygu y byddai moch daear sydd wedi'u heintio yn cael eu dal mewn cawelli ac yna'u difa, mewn ymgais i daclo'r afiechyd.

Ond mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi diystyrru cynllun difa tebyg i Loegr, ble mae gan ffermwyr yr hawl i saethu moch daear iach yn ogystal â'r rhai sydd yn cario TB.

Dywedodd y llywodraeth mai eu bwriad oedd "adfywio" eu dull o ymdrin â'r diciâu, a hynny gyda chynlluniau unigol ar gyfer ffermydd sydd wedi'u heffeithio.

Bydd mesurau eraill yn cynnwys rheolaeth gryfach ar wartheg a mwy o brofion. Bydd Ardaloedd TB Isel, Canolig ac Uchel hefyd yn cael eu sefydlu ar draws Cymru yn dibynnu ar ba mor gyffredin yw'r afiechyd.

Yn ôl NFU Cymru, mae'r cynlluniau yn "gam ymlaen" o ran eu strategaeth i ddelio â'r clefyd, ond fe fynegon nhw eu pryder y bydd hi'n "cymryd amser" i weithredu'r newidiadu mewn modd digonol.

Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru y byddai targedu moch daear sydd wedi eu heintio "yn gam cadarnhaol".

Gorllewin a'r ffin

Bydd Sir Benfro, Sir Gâr a'r siroedd sydd ar y ffin â Lloegr yn cael eu diffinio fel ardaloedd Uchel, tra bod gogledd orllewin Cymru yn ardal Isel.

Mae disgwyl i'r dull o daclo'r diciâu gael ei deilwra yn dibynnu ar amodau a risg amrywiol yr afiechyd.

Y bwriad, medd y llywodraeth, yw ceisio atal yr haint rhag ymledu i'r gogledd orllewin a cheisio cael ei wared yn yr ardaloedd ble mae'n broblem ar hyn o bryd.

Yn ystod cyfnod ymgynghori o 12 wythnos fe fydd y llywodraeth yn holi barn ynglŷn â pha fesurau fydd yn weithredol ym mha ardaloedd.

Image caption Dywedodd Ms Griffiths y gallai moch daear gael eu difa mewn rhai achosion

Mae disgwyl cynlluniau unigol hefyd ar gyfer ffermydd ble mae'r afiechyd yn broblem cyson, wedi'u datblygu ar y cyd rhwng ffermwyr, milfeddygon a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion - gan gynnwys ymchwilio i arferion ffermwyr.

Ble roedd modd dangos bod moch daear yn rhan o'r broblem, dywedodd Ms Griffiths y byddai'n ystyried caniatáu iddynt gael eu dal mewn cawelli, ac yna difa'r anifeiliaid hynny oedd wedi'u heintio.

Mae mesurau tebyg wedi cael eu profi yng Ngogledd Iwerddon yn ddiweddar.

Yn Lloegr, ar y llaw arall, mae saethwyr â thrwyddedau wedi bod yn difa moch daear mewn rhannau o Gernyw, Sir Henffordd, Dyfnaint, Sir Gaerloyw, Gwlad yr Haf a Dorset.

Mae NFU Cymru - sy'n credu mai'r diciâu yw'r "bygythiad mwyaf i ffermwyr gwartheg a llaeth mewn rhannau helaeth o Gymru" - wedi dweud bod datganiad y llywodraeth yn "gam ymlaen" o ran eu strategaeth i ddelio â'r clefyd.

"Drwy gyflwyno ei chynlluniau ar gyfer delio â cholledion gwartheg cyson, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod y cysylltiad rhwng gwartheg a bywyd gwyllt o ran trosglwyddo heintiau, ond rydym ni'n poeni am yr amser y gallai gymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn mewn modd digonol," meddai llywydd yr undeb, Stephen James.

Dywedodd ei fod o blaid y syniad o rannu'r wlad yn Ardaloedd TB "mewn egwyddor", ond rhybuddodd bod angen ystyried effaith hynny ar gyfer ffermwyr yn yr ardaloedd newydd.

Ychwanegodd bod cynnig y llywodraeth i leihau uchafswm y taliad ar gyfer anifeiliad sy'n cael eu difa "i'w weld yn cosbi ffermwyr sy'n buddsoddi llawer mewn geneteg anifeilaid ac i'w gwneud yn gynhyrchiol".

Fe ddywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: "Byddai targedu moch daear sydd wedi eu heintio yn gam cadarnhaol, ond mae'n siom ei fod wedi cymryd cymaint o flynyddoedd i ddod nôl at synnwyr cyffredin ar ôl i'r cynllun llawn i daclo'r haint mewn bywyd gwyllt gael ei ollwng gan y llywodraeth diwethaf."

Ychwanegodd byddai'r cynlluniau i sefydlu Ardaloedd TB yn fanteisiol i rai aelodau, ac yn anfanteisiol i eraill, a dywedodd y bydden nhw'n ymateb ar ôl ymgynghori â'u haelodaeth.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion gwledig, Paul Davies bod yr ymgynghoriad i'w groesawu, ond "nad yw mesurau Llafur... yn mynd ddigon pell" i ddelio gyda'r broblem.

Image caption Stephen James o NFU Cymru

Mae ffermwyr wedi bod yn galw ers sbel ar i Lywodraeth Cymru gynnwys difa moch daear yn rhan o'u cynlluniau, ond mae grwpiau bywyd gwyllt wedi gwrthwynebu hynny'n chwyrn.

Wrth siarad yn y Senedd dywedodd Ms Griffiths: "Mae ein rhaglen bresennol ar gyfer cael gwared â TB yng Nghymru yn dod i ben eleni, felly mae'n bryd edrych yn ôl arni, adlewyrchu ar ein llwyddiannau, dysgu gwersi ac ystyried sut i adfywio'n ymdriniaeth ni.

"Ers i ni gyflwyno rhaglen waredu yn 2012 rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion newydd o TB mewn gwartheg yng Nghymru, gyda'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion TB newydd wedi gostwng o 19%.

"Rydw i'n awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn a chyflymu'r gwaith da, a dyna pam rydw i'n gobeithio cyflwyno mesurau gwell sydd yn seiliedig ar dystiolaeth.

"Rydw i'n credu y bydd y Rhaglen Dileu TB adnewyddedig hwn yn ein rhoi ni mewn safle cryfach er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i gymryd y camau tuag at Gymru sydd yn rhydd o diciâu gwartheg."