Michael Sheen: Dadl ffoaduriaid yn 'rhy wleidyddol'

Michael Sheen yn annerch y gynhadledd
Image caption Michael Sheen, sy'n lysgennad i elusen UNICEF UK, yn annerch y gynhadledd ddydd Mawrth

Mae Michael Sheen wedi dweud bod y drafodaeth am argyfwng y mudwyr "yn rhy wleidyddol".

Bu'r actor a'r ymgyrchydd yn annerch cynhadledd yng Nghasnewydd i nodi Diwrnod Gwrth-gaethwasiaeth, sy'n ddigwyddiad blynyddol yn y DU ers 2010.

Fe rybuddiodd Mr Sheen bod perygl o anghofio bod ffoaduriaid yn ffoi "amgylchiadau erchyll".

Dywedodd Lily Caprani o elusen UNICEF UK bod plant sy'n ffoi i Ewrop dan fygythiad arbennig o gael eu "hecsbloetio" gan fasnachwyr "sydd eisiau gwerthu eu cyrff neu eu llafur".

Yn ôl yr elusen, mae 257 o ffoaduriaid o Syria wedi cael cartref yng Nghymru hyd yn hyn - ac maen nhw'n galw ar awdurdodau lleol i barhau i gynnig croeso iddyn nhw.

Agwedd ddynol

Fe ddywedodd Mr Sheen, sy'n lysgennad i UNICEF UK, bod Cymru wedi "arwain" y ffordd drwy ail-gartrefu ffoaduriaid.

Ond rhybuddiodd bod y rhethreg wleidyddol yn ei bryderu.

"Rhan o'r broblem yw bod pobl yn anghofio am yr agwedd ddynol yn yr argyfwng," meddai. "Mae'n troi'n rhy wleidyddol... ac mae'n cael ei ddefnyddio gan agendâu ar y ddwy ochr.

"Yr hyn ddylen ni ddim ei anghofio ydi mai pobl - bodau dynol - mewn amgylchiadau erchyll, erchyll ydi'r rhain."

Image caption Lily Caprani yw dirprwy brif weithredwr UNICEF UK

Dywedodd Lily Caprani ei bod hi'n disgwyl gweld rhai o'r plant sy'n ffoaduriaid yng ngwersyll y 'Jyngl' yn Calais yn cael cartref yng Nghymru.

Mae'r elusen yn credu mai dyma'r garfan o ffoaduriaid sydd fwyaf dan fygythiad o gaethwasiaeth.

"Rydyn ni'n gwybod bod 'na filoedd o blant yn cael eu cludo'n anghyfreithlon i Ewrop, gan gynnwys i'r DU, i Gymru, ac mae pobl eraill yn eu gwerthu am eu llafur neu eu cyrff," meddai.

"Yr hyn 'dyn ni'n poeni amdano yma yn UNICEF UK ydi'r plant sy'n ffoaduriaid heb warcheidwaid, sy'n dod i Ewrop ar eu pennau'u hunain ac sydd dan fygythiad arbennig o gael eu targedu gan bobl sydd eisiau eu hecsploetio."

Ychwanegodd bod "Cymru wedi bod yna o'r cychwyn, yn agor eu breichiau ac yn croesawu" teuluoedd o Syria. Mynegodd ei gobaith y byddai awdurdodau lleol hefyd yn barod i roi croeso i blant sydd wedi ffoi ar eu pennau eu hunain.

Mae 16 o'r 22 cyngor yng Nghymru wedi ail-gartrefu ffoaduriaid o Syria. Mae Llywodraeth y DU wedi addo derbyn 20,000 o ffoaduriaid dros gyfnod o bum mlynedd.