Cwpan FA Lloegr: Wrecsam 2-3 Stamford

Wrecsam

Roedd yna ergyd greulon i Wrecsam nos Fawrth wrth iddyn nhw golli'n erbyn Stamford yn amser ychwanegol gêm ail-chwarae pedwaredd rownd cwpan FA Lloegr.

Ar ôl gêm gyfartal rhwng y ddau dîm ddydd Sadwrn, roedd Wrecsam yn gobeithio am fuddugoliaeth yn erbyn Stamford, sydd dair cynghrair yn is.

Fe aeth goliau Lee Beeson a Kern Miller â Stamford ar y blaen ar y Cae Ras, cyn i Shaun Harrad a Jordan Evans sgorio i ddod â'r tîm cartref yn ôl yn gyfartal.

Ond, gyda chic rydd yn yr amser ychwanegol, llwyddodd Jake Duffy i sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr a lle yn y rownd nesaf yn erbyn Harltepool.