Meddygon teulu dan hyfforddiant: Bonws o £20,000

meddygo

Fe fydd meddygon teulu dan hyfforddiant yn cael cynnig annogaeth ariannol i weithio mewn rhannau o Gymru lle mae'n anodd denu a chadw meddygon.

Byddai'r cytundebau newydd yn rhan o gynllun cenedlaethol a rhyngwladol i glymu'r meddygon i'r lleoliadau, er mwyn gweithio yn yr ardaloedd am flwyddyn.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig "cytundebau unigryw" lle bydd manteision ychwanegol i feddygon sy'n dewis dod i Gymru.

Yn genedlaethol, fe fydd taliadau bonws o £20,000 ar gael i feddygon teulu dan hyfforddiant, yn ogystal â chynnig o £2,000 gan y GIG yng Nghymru i feddygon teulu newydd yma, er mwyn helpu i dalu am eu harholiadau terfynol.

Mae'n rhan o ymgyrch newydd gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â phroblemau recriwtio ac annog meddygon i weithio yma.

Gadael y proffesiwn

Dywedodd mwy na chwarter y meddygon teulu a arolygwyd gan y BMA yng Nghymru eu bod yn ystyried gadael y proffesiwn, gyda phryderon am lwyth gwaith a diffyg staff.

Mae hyn yn dilyn pryderon am y tymor hir fod meddygon yn ymddeol a bod rhai meddygfeydd yn cael eu rhoi yn ôl i fyrddau iechyd.

Mae grŵp o feddygon teulu yn y Rhondda - lle mae hyd at hanner y meddygon teulu dros 55 oed - wedi creu gwefan eu hunain sydd wedi'u hanelu at fynd i'r afael â materion recriwtio.

Image copyright Llywodraeth Cymru

Mae'r ymgyrch newydd yn cael ei redeg yng Nghymru a thramor hefyd, gan anelu at hyrwyddo Cymru fel "lle ardderchog" i feddygon i hyfforddi, byw a gweithio.

Bydd gwasanaeth cefnogol dros y ffôn ac ar-lein hefyd ar gael i gynnig cefnogaeth i feddygon sydd â diddordeb dychwelyd i weithio yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn gweld hyfforddeion yn derbyn £20,000 gyda'r ddealltwriaeth y byddan nhw'n parhau i fod yn y lleoliadau hyfforddiant am o leiaf un flwyddyn ar ôl cymhwyso.

Bydd y cynllun yn dod i rym yn Awst 2017.

'Gweithredu'n gyflym'

Yn y cyfamser, mae Deoniaeth Cymru, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd wedi cyhoeddi cytundeb ar y cyd, y cyntaf o'i fath yn y DU i feddygon iau yng Nghymru.

Mae'n caniatáu neilltuo amser ar gyfer dysgu yn eu hwythnos waith, i sicrhau bod pob meddygon dan hyfforddiant yn cael mynediad i gyfleoedd datblygu gyrfa.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Mae'n bwysig i ni weithredu a gweithredu'n gyflym er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gynaliadwy yn y tymor hir.

"Mae'r ymgyrch heddiw yn dangos bod Cymru nid yn unig yn lle ardderchog i fyw - mae ein dinasoedd a threfi bywiog, traethau epig a mynyddoedd trawiadol yn siarad drostynt eu hunain - ond mae hefyd yn le gwych i hyfforddi a gweithio ynddo."

Image caption Mae Dr Gwyndaf Williams yn feddyg teulu yn y Rhondda

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r ymgyrch newydd yn mynd ymhellach nag unrhyw beth yr ydym wedi ei wneud o'r blaen, a bydd yn cefnogi'r gwaith da sy'n cael ei wneud eisoes gan ein byrddau iechyd i recriwtio staff.

"Mae'n nodi beth all Cymru fel gwlad ei gynnig i bobl sy'n hyfforddi ac yn gweithio yma."

Dywedodd ei fod yn disgwyl gweld cynnydd mewn ceisiadau am leoedd hyfforddi gyda chanlyniad cyfraddau llenwi yn uwch ar gyfer lleoedd.

Mae Dr Gwyndaf Williams, o'r gogledd yn wreiddiol, wedi bod yn feddyg yn Nhonypandy, Rhondda Cynon Taf, am bedair blynedd ar ôl hyfforddi yn y cymoedd.

Yn anarferol, mae'n gweithio gyda phedwar o bobl eraill yn yr un feddygfa, i gyd o dan 40 oed.

"Gall bod yn feddyg teulu fod yn swydd ynysig iawn, mae'n bwysig eich bod yn gweithio mewn tîm sydd â dealltwriaeth er mwyn helpu'n gilydd." meddai.

"Gall y gwaith fod yn ddwys iawn. Rydym yn awr yn cyrraedd misoedd y gaeaf, ac rydym yn gweld afiechydon y llwybr resbiradol, peswch ac annwyd yn cynyddu, rydym yn gweld fod pobl yn ei chael hi'n anoddach i gael mynediad i apwyntiadau, ac rydym yn gweld mwy o gleifion.

"Yn bersonol, rwyf yn meddwl ei fod am wneud bywyd dydd i ddydd meddygfeydd yn well, gwneud y dyddiau yn haws, gan wneud y llwyth gwaith yn llai, y bydd yn ei hun yn denu pobl i gymryd swyddi parhaol."