Plaid 'wastad yn ystyried' ffurfio clymblaid â Llafur

Leanne Wood
Image caption Leanne Wood

Mae Plaid Cymru "wastad yn ystyried" a ddylid ffurfio clymblaid gyda Llafur yn y Cynulliad, yn ôl arweinydd y blaid, Leanne Wood.

Mae'r blaid yn cydweithio gyda llywodraeth leiafrifol Llafur ond yn parhau i fod yn wrthblaid.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei fod yn gadael Plaid Cymru ac y byddai'n eistedd fel aelod Cynulliad annibynnol, gan ddweud nad oeddynt yn ddifrifol am weithio gyda Llafur.

Dywedodd Ms Wood wrth BBC Cymru fod "trafodaethau parhaus" yn y blaid ynghylch a fyddai'n well iddynt rannu grym yn ffurfiol.

Dywedodd bod aelodau'r blaid wedi eu "wirioneddol rwygo" dros y "cyfyng-gyngor".

Ymrwymiadau maniffesto

Siaradodd Ms Wood cyn cynhadledd y blaid yn Llangollen dros y penwythnos.

"Rydym yn mynd ati i ystyried hyn drwy'r amser," meddai.

"Mae'r cwestiwn o sut y gall Plaid Cymru chwarae eu rhan yn y ffordd orau, sy'n diogelu buddion pobl Cymru.

"Rydym wedi cymryd y farn, y gallwn ddefnyddio'r sefyllfa hon gyda llywodraeth leiafrifol i gael cymaint o'n hymrwymiadau maniffesto drwy'r cynulliad, ac i ddylanwadu ar agweddau eraill fel deddfwriaeth, fel y ddadl ar Brexit.

Image caption Cyhuddodd yr Arglwydd Dafydd Ellis-Thomas Blaid Cymru o beidio a bod o ddifrif am weithio gyda'r Blaid Lafur

"Ond rydym hefyd wedi bod o'r farn bod y llywodraeth yn haeddu gwrthwynebiad yn ogystal a chraffu, ac ni allwn fforddio adael i'r pleidiau eraill gael yr hawl i wneud hynny."

Dywedodd Ms Wood: "Gallai hynny newid wrth i amser fynd heibio, ond fel y mae pethau ar hyn o bryd mae'r Compact wedi ein gwasanaethu'n dda ac mae'r ffaith ein bod wedi llwyddo i sicrhau gwerth £119m o'n hymrwymiadau yn y gyllideb yn dangos ei fod yn gweithio yn eithaf da i ni ar hyn o bryd."

Mae'r Compact yn gytundeb y mae Plaid wedi ei wneud gyda Llafur i ganiatáu i Carwyn Jones ddychwelyd fel prif weinidog, wythnos ar ôl iddo a Ms Wood anghytuno'n llwyr ynglŷn a phleidlais i gymryd y swydd.

Ychwanegodd: "Rwy'n credu bod pobl (yn y Blaid) yn cael eu rhwygo'n wirioneddol rhwng y ddwy farn, a ydyn nhw (Llafur) mor ddrwg ar lefel lywodraethol, nes y dylem fod yno yn eu helpu, neu eu bod yn gwneud gwaith mor ddrwg nes bod angen eu dal i gyfrif gyda gwrthwynebiad cryf. Mae hyn yn benbleth.

'Penbleth'

"Rwy'n credu mai dyna'r benbleth ar gyfer y rhan fwyaf o aelodau."

Mae gan y ddau balaid "berthynas waith dda", meddai, ond roedd gwahaniaethau mawr rhyngddynt dros Brexit.

Ond mae un o ACau Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi dweud ei fod wedi "synnu" ag adroddiadau y gallai'r blaid ffurfio clymblaid â Llafur, gan ddweud bod hynny'n groes i safbwynt swyddogol eu grŵp yn y Cynulliad.

Bydd y Blaid yn defnyddio ei chynhadledd i ddangos ei fod wedi sicrhau consesiynau yn y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd yr wythnos hon.

Mae'r cytundeb £119m â Phlaid yn cynnwys mwy o arian ar gyfer addysg uwch, a hyfforddiant meddygol.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud fod y fargen dros y gyllideb yn brawf bod Plaid yn cadw Llafur mewn grym.