Caerdydd 1-1 Sheffield Wednesday

caerdydd Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Sheffield Wednesday wedi codi i'r safleoedd ail-gyfle yn y Bencampwriaeth, yn dilyn gêm gyfartal gyda Chaerdydd.

Dyma ail gêm Neil Warnock fel rheolwr yr Adar Gleision.

Roedd Caerdydd ar y blaen ar yr hanner, diolch i gic-rydd Peter Whittingham.

Fe ddaeth ergyd isel gan Daniel Pudil a'r ymwelwyr yn gyfartal yn yr ail hanner.

Tra bod Wednesday yn codi i'r chweched safle yn y tabl, mae Caerdydd yn parhau yn yr 22ain safle.