Lansiad cyntaf o orsaf bad achub newydd Tyddewi

Bad achub Norah Wortley Image copyright RNLI
Image caption Bydd y bad achub newydd dosbarth Tamar yn cael ei lansio am y tro cyntaf ddydd Gwener

Bydd gorsaf bad achub newydd Tyddewi yn lansio ei llong gyntaf ddydd Gwener - ar yr un pryd ac y bydd yr hen fad achub yn cael ei lansio am y tro olaf.

Bydd yr hen fad achub dosbarth Tyne yn cael ei lansio i'r dŵr i gyd-fynd â lansiad cyntaf y bad achub newydd dosbarth Tamar.

Mae'r orsaf newydd gwerth £10m wedi ei osod o fewn wyneb craig fel rhan o brosiect peirianneg enfawr.

Bu'n rhaid adeiladu'r orsaf newydd am fod y bad achub newydd yn rhy fawr i'r hen orsaf.

Fe wnaeth pobl leol godi mwy na £214,000 tuag at gost y prosiect, tra bo rhodd o £80,000 wedi cael ei roi er cof am y cyn-gapten, Bleddyn James gan ei chwaer.

Image caption Yr orsaf bad achub newydd yn Nhyddewi