Anglesea: Rheithgor yn parhau i ystyried eu dyfarniad

Gordon Anglesea

Mae'r rheithgor yn achos y cyn-swyddog heddlu Gordon Anglesea, sydd yn wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw hanesyddol, yn parhau i ystyried eu dyfarniad am yr ail ddiwrnod.

Fe dreuliodd y rheithgor chwe awr ddydd Iau yn ystyried eu dyfarniad.

Fe wnaethon nhw ddychwelyd i Lys y Goron yr Wyddgrug fore Gwener, ac fe gawsant eu hanfon allan gan y Barnwr Geraint Walters er mwyn iddyn nhw barhau i drafod.

Mae Mr Anglesea, 79 oed o Hen Golwyn, yn gwadu tri chyhuddiad o ymosodiad rhywiol ac un cyhuddiad o ymosodiad rhywiol difrifol yn erbyn dau fachgen yn yr 1980au, pan oedd yn arolygydd heddlu oedd yn rhedeg canolfan bresenoli yn Wrecsam.

Mae'r barnwr hefyd wedi dweud y gall y rheithgor ystyried cyhuddiad o ymosodiad rhywiol fel dewis arall i'r cyhuddiad mwyaf difrifol.