Munud o dawelwch
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Munud o dawelwch ar draws Cymru i gofio Aberfan

21 Hydref 2016 Diweddarwyd 11:34 BST

Fe wnaeth pobl ar draws Cymru gynnal munud o dawelwch am 09:15 y bore 'ma er cof am drychineb Aberfan hanner canrif yn ôl.

Ar 21 Hydref 1966 fe wnaeth tomen o lo lithro i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd a 18 o dai yn y pentref, gan ladd 144 o bobl.

O amgylch Cymru, bu pobl yn cymryd seibiant i nodi'r munud o dawelwch, gan gynnwys yng nghynhadledd Plaid Cymru, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac ar y Maes yng Nghaernarfon.