'Dylai mewnblaniad coluddyn fod ar gael'

bwal Image copyright Thinkstock

Dylai pobl sydd â chyflwr ar y coluddyn allu derbyn mewnblaniad gwerth £7,500, yn ôl AC Llafur.

Dim ond rua 40 o'r rhai sydd â chyflwr coluddyn gwanychol [debilitating bowel condition] sydd wedi derbyn y ddyfais yng Nghymru ers 2009.

Mae tua 1,000 o gleifion y flwyddyn yn Lloegr a'r Alban yn derbyn y ddyfais.

Dywedodd yr AC Llafur, Jenny Rathbone y dylai'r driniaeth hon fod ar gael fel "ymyraeth sylfaenol".

Ond fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i fyrddau iechyd gael "trefniadau arferol" ar gyfer gofal priodol i gleifion.

Colli rheolaeth

Mae meddygon yn dweud fod o leiaf 2.5% o'r boblogaeth yn dioddef o'r cyflwr, sy'n achosi i bobl golli rheolaeth ar symudiadau eu coluddyn.

Mae'r rhai sydd fwyaf mewn perygl yn cynnwys merched a mamau sydd wedi cael problemau wrth eni babanod, yn ogystal â rhai goroeswyr canser.

Gall y cyflwr arwain at bobl yn dod yn gaeth i'r tŷ, ac yn gymdeithasol ynysig.

I lawer o gleifion, gall newidiadau i'w deiet a ffisiotherapi eu helpu i reoli'r symptomau - ond mae pobl nad ydynt yn ymateb i'r triniaethau hyn yn gallu mynd ymlaen i gael eu ffitio â dyfais sy'n symbylu'r nerf sacrol.

Image copyright Reproduced with permission of Medtronic, Inc
Image caption Y ddyfais sy'n rheoli nerfau'r coluddyn

Mae'r ddyfais, sy'n cael ei gosod wrth waelod yr asgwrn cefn, yn anfon signalau trydanol i'r nerfau sy'n rheoli symudiadau'r coluddyn.

Gyda chostau ychwanegol o fonitro a newid batri, gall y gost oes y ddyfais fod hyd at £25,000.

Mae'r dyfeisiadau wedi cael eu cymeradwyo gan y National Institute for Health and Care Excellence (NICE) fel triniaeth sydd ar gael ar ôl i driniaethau eraill fethu.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i feddygon yng Nghymru i wneud cais am gyllid ar gyfer y ddyfais drwy Ffurflenni Cais Cleifion Unigol (IPFRs), proses a gadwyd fel arfer ar gyfer triniaethau nad ydynt wedi eu cymeradwyo gan NICE.

Mae cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan BBC Cymru wedi datgelu mai dim ond tua 40 o gleifion yng Nghymru sydd wedi derbyn y dyfeisiau - neu GAAs - yn y saith mlynedd diwethaf.

'Gwasanaeth eilradd'

Dywedodd Ms Rathbone, sydd wedi bod aflwyddiannus yn ei hymgais i geisio ariannu triniaeth ar gyfer un o'i hetholwyr yn ardal Canol Caerdydd: "Pan fydd meddyg yn credu mai hyn sydd ei angen, dylid ei fod ar gael.

"Rwy'n credu, oherwydd mai merched yw'r prif ddioddefwyr, nad yw'r driniaeth yn cael y sylw a'r cyllid y mae'n ei haeddu."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Nid yw byrddau iechyd lleol yn defnyddio'r broses IPFR i gymeradwyo'r driniaeth hon. Maent yn defnyddio'r paneli IPFR at ddiben ar wahân, er mwyn sicrhau bod cyfeiriadau ar gyfer y math hwn o driniaeth yn cyfarfod canllawiau NICE.

"Os nad oes gan y byrddau iechyd gyfleusterau arbenigol i ymdrin â'r cyflyrau hyn, byddem yn disgwyl iddynt wneud trefniadau ar gyfer cleifion i gael y gofal mewn mannau eraill."