Trenau ddim yn galw yng ngorsaf Abertawe dros y penwythnos

gorsaf abertawe Image copyright Google

Mae teithwyr rheilffordd wedi cael eu rhybuddio na fydd trenau'n galw yng ngorsaf Abertawe dros y penwythnos.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru fod hyn o ganlyniad i "waith gwella hanfodol i'r rheilffordd".

Fe fydd y gwaith gan Network Rail ddim ond yn effeithio ar gwsmeriaid sydd eisio teithio i ac o orsaf Abertawe.

Bydd yr holl wasanaethau rhwng gorllewin Cymru a Chaerdydd yn cael eu dargyfeirio heibio'r orsaf, a bydd y gwasanaethau yn "rhedeg fel arfer".

Bydd bysiau yn cludo teithwyr o Bort Talbot a Llanelli i'r ddinas, ychwanegodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru.