Ailagor pwll nofio Cwm Afan

pwll cymer Image copyright Google/NPTC Group of Colleges

Mae pwll nofio yng Nghastell-nedd Port Talbot gafodd ei gau y llynedd wedi ailagor yn dilyn ymgyrch gan wirfoddolwyr.

Cafodd pwll nofio Cwm Afan yn y Cymer ei agor yn swyddogol ddydd Sadwrn.

Fe gafodd y cyfleuster ei achub ar ôl i gwmni Hamdden Cymunedol Cwm Afan weithio gyda chwmni Llandarcy Park Ltd i godi arian ar gyfer y cynllun.

Fe gafodd y pwll ei gau yn wreiddiol ym mis Rhagfyr 2015 yn sgil toriadau yng ngyllideb yr awdurdod lleol.