Gleision Caerdydd 27-12 Pau

rygbi Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Gleision Caerdydd wedi codi i frig grŵp 4 yng Nghwpan Her Ewrop, yn dilyn buddugoliaeth gartref yn erbyn Pau.

Fe amddiffynnodd Pau yn galed yn ystod yr hanner cyntaf, gan ymateb yn syth i gais Blaine Scully, gyda chais gan Daniel Ramsey dros yr ymwelwyr.

Fe ddaeth dau sgôr gan Cory Allen ar ôl yr egwyl, gyda chymorth gan Steven Shingler, gan roi mantais glir i'r tîm cartref.

Ond methodd y Gleision i hawlio'r pwyntiau bonws yn y 20 munud olaf, yn dilyn ymdrech Pierre Dupouy, a sgoriodd cais o gysur dros Pau.