Lle amlwg i Gader Idris yng ngwaith Artes Mundi

Tyrau Mawr - Bedwyr Williams Image copyright ARTES MUNDI
Image caption Tyrau Mawr - Bedwyr Williams

Mae gwaith saith artist cyfoes o bedwar ban byd yn cael ei arddangos yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn arddangosfa Artes Mundi.

Ymhlith y darnau a fydd yn cystadlu am wobr o £40,000 mae gwaith y Cymro Bedwyr Williams.

Mae ei waith, 'Tyrau Mawr', yn fideo ugain munud sydd wedi cael ei animeiddio'n gyfrifiadurol.

Yn ei ddychymyg, mae'r artist yn gweld dinas ar lethrau Cader Idris, ac yn yr adroddiad sy'n cydfynd â'r fideo, mae profiadau'r trigolion wrth i'r nos wawrio'n ddydd.

Yn ôl Bedwyr Williams, chwarae'r gêm Clash of Cans ar ei ffôn gyda'i fab sydd wedi ei ysgogi i godi ceyrydd dychmygol.

Seithfed gŵyl

Dyma'r tro cyntaf ers 2006 i artist o Gymru fod ar rhestr fer yr Artes Mundi. Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal eleni am y seithfed tro.

Mae gwaith yr artistiaid yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol ac mewn orielau llai traddodiadol yn y brifddinas. Mae dau o'r gweithiau i'w gweld yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.

Dywedodd Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr a Churadur Artes Mundi: "Mae Artes Mundi 7 yn dwyn ynghyd gwaith saith artist rhyngwladol neilltuol.

"Trwy eu gwaith maent yn archwilio materion byd-eang pwysig fel mudo, technoleg, ffeministiaeth, cyfalafiaeth a gwleidyddiaeth fyd-eang. Mae'r artistiaid hyn yn cwestiynu beth mae'n ei olygu i fod yn ddynol yn ein byd a'n hoes.

"Boed yn archwilio'r sefyllfa bresennol yn Angola, y defnydd o dechnoleg mewn rhyfel, dinasoedd ffuglennol y dyfodol, gwleidyddiaeth cynhyrchu bwyd neu fudo o Syria i Beirut; mae eu gwaith yn cynnwys hiwmor a swrealaeth ac yn ennyn ymateb."

Image copyright ARTES MUNDI
Image caption Taith yr hedyn sy'n portreadu pobl o bob diwylliant yn cydfwyta bara - gwaith Amy Franceschini

Y mae'r artistiaid wedi cael eu dewis o blith 700 o enwebiadau o 90 o wledydd.

Y chwech artist arall yw John Akomfrah (Prydain), Neïl Beloufa (Ffrainc/Algeria), Amy Franceschini (UDA/Belg), Lamia Joreige (Libanus), Nástio Mosquito (Angola) a Hito Steyerl (Yr Almaen).