Cerddwr wedi syrthio 'fel doli glwt' yn Eryri

Crib Goch Image copyright PA
Image caption Roedd y dyn yn cerdded llwybr Crib Goch pan syrthiodd

Fe glywodd cwest bod cerddwr mynydd amhrofiadol wedi marw ar ôl rhoi'r gorau i ymgais i ddringo'r Wyddfa ar lwybr Crib Goch.

Roedd Kenneth Hands, 35 o orllewin canolbarth Lloegr, yn cerdded gyda thri arall pan syrthiodd fis Ebrill.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ei bod hi wedi dechrau bwrw eira tra'r oedd y dynion yn cerdded lawr y mynydd.

Dywedodd cyfaill i Mr Hands ei fod wedi syrthio "fel doli glwt". Cafodd anafiadau difrifol i'w ben.

Daeth y cwest i'r casgliad iddo farw'n ddamweiniol.