Abertawe 0-0 Watford

Gylfi Sigurdsson Image copyright Getty Images
Image caption Fe darodd Gylfi Sigurdsson y postyn i'r Elyrch

Di-sgôr oedd hi yn gêm gartref Bob Bradley fel rheolwr Dinas Abertawe.

Wedi hanner cyntaf oedd yn isel o ran safon, aeth yr Elyrch ati i greu cyfleon da yn yr ail hanner.

Cafodd yr amddiffynwr Mike van der Hoorn gyfle da yn y cwrt cosbi - ond roedd golwr Watford, Heurelho Gomes, yn ddigon ystwyth i atal y bêl rhag mynd i'r rhwyd.

Daeth y postyn hefyd, yn ei dro, i achub Watford, gan atal Gylfi Sigurdsson rhag sgorio.

Gallai'r ymwelwyr fod wedi cael cic o'r smotyn yn hwyr yn y gêm ond gwrthod eu hapêl wnaeth y dyfarnwr.

Fe wnaeth Bradley bum newid o'r gêm ddiwethaf yn Arsenal, gan gynnwys dewis yr amddiffynwr Alfie Mawson, 22 oed, am y tro cyntaf i'r clwb.

Ond nid yr amddiffyn ond y diffyg goliau fydd gofid pennaf y rheolwr newydd, gydag Abertawe'n aros un safle o waelod Uwch Gynghrair Lloegr.

Image copyright Getty Images
Image caption Aeth y Liberty yn dawel i gofio am drychineb Aberfan cyn y gic gyntaf