Jones: Osgoi tariffau masnachu â'r UE yn 'hollbwysig'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Carwyn Jones: Osgoi tariffau yn "hollbwysig"

Mae Carwyn Jones wedi dweud ei bod hi'n "hollbwysig" bod dim tariffau ar fasnach rhwng Cymru a'r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.

Dywedodd prif weinidog Cymru na fyddai'n cefnogi unrhyw gytundeb i adael yr UE sy'n golygu y bydd ffioedd ar nwyddau o Gymru.

Roedd e'n siarad cyn iddo gwrdd â Theresa May ac arweinwyr llywodraethau eraill y DU yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion ddydd Llun.

Ychwanegodd ei bod hi'n "hollbwysig cael cytundeb" rhwng y llywodraethau cyn y trafodaethau i adael yr UE.

Yn gynharach, fe ddywedodd Ms May ei bod am weld perthynas "aeddfed" ar sail "cydweithrediad a chonsensws" rhwng ei llywodraeth hi a'r cenhedloedd.

'Argyfwng i Gymru'

Yn ei gyfweliad â'r BBC, dywedodd Mr Jones y byddai cytundeb ble fyddai'r DU y tu allan i'r farchnad sengl ac yn destun tariffau masnach yn "argyfwng i Gymru".

Ar hyn o bryd, meddai, "ni'n gallu dweud wrth fuddsoddwyr: 'dewch i Gymru, achos ni'n giât i'r Undeb Ewropeaidd a'r farchnad Ewropeaidd'.

"Does dim rhaid bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd i gael hwnna, ond mae wedi bod yn llwyddiannus dros ben i ni.

"Os ydi'r giât 'na'n cau, ddeith y buddsoddwyr ddim, so fyddwn ni ddim yn gefnogol o hwnna o gwbl achos 'wy'n gwbod y niwed fydde'n cael ei wneud i economi Cymru".

Image copyright Getty Images
Image caption Daeth Theresa May i Gaerdydd i gwrdd â Carwyn Jones ym mis Gorffennaf, yn fuan wedi iddi gymryd y llyw fel prif weinidog

Pan ofynnwyd iddo sut y byddai'n atal 'Brexit caled' a allai olygu tariffau masnach, dywedodd Mr Jones y byddai'n "synhwyrol" i lywodraeth y DU ddod i gytundeb â llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon cyn trafod â'r UE.

"Beth fydda' i'n ddweud 'fory [yn y cyd-bwyllgor] yw ei bod hi'n hollbwysig cael cytundeb da i'r DU, ond mae'n hollbwysig hefyd i geisio cael cytundeb rhwng gwledydd y DU", meddai.

"Y ffaith yw os ydi'r DU yn ffaelu siarad gyda'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, a chael cytundeb gyda nhw, pa fath o obaith sydd 'na i gael cytundeb gyda gweddill Ewrop?"

Mae Theresa May wedi addo cryfhau'r berthynas gyda gweinidogion llywodraethau datganoledig Prydain cyn i'r cyd-bwyllgor gwrdd am y tro cyntaf ers Rhagfyr 2014.

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd hi'n "chwilio am gytundeb" ar sut mae cryfhau'r cydweithio rhwng y DU a'r llywodraethau.

Image copyright Getty Images
Image caption Daeth Arlene Foster, Nicola Sturgeon a Martin McGuinness at ei gilydd yng nghyfarfod Cyngor Prydain-Iwerddon ym mis Mehefin

Mae Ms May hefyd yn cynnig cyfres o newidiadau i'r cyd-bwyllgor, gan gynnwys sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn flynyddol o leiaf a chynhyrchu adroddiad blynyddol ar weithgaredd y grŵp.

Pe bai'r newidiadau'n cael eu cymeradwyo, fe fyddai cadeiryddiaeth a lleoliad y cyfarfod - sy'n digwydd y tro hwn yn Downing Street dan gadeiryddiaeth Ms May - yn symud o un wlad i'r llall.

Dywedodd Ms May: "Rwy' eisiau i gyfarfod dydd Llun fod yn ddechrau perthynas newydd, aeddfed rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU - perthynas ble rydym ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i greu dyfodol i bawb yn y Deyrnas Unedig."