Nottingham Forest 1-2 Caerdydd

Aron Gunnarsson Image copyright Rex Features
Image caption Aron Gunnarsson roddodd yr Adar Gleision ar y blaen

Mae Caerdydd mas o'r safleoedd disgyn yn y Bencampwriaeth wedi buddugoliaeth yn erbyn 10 dyn Nottingham Forest.

Roedd yr Adar Gleision 2-0 ar y blaen erbyn yr hanner, diolch i beniad Aron Gunnarsson o gic gornel Peter Wittingham ac ergydiad o agos gan Joe Ralls.

Aeth gobeithion y tîm cartref o daro'n ôl yn ffliwt pan gafodd Thomas Lam gerdyn coch am drosedd ar Anthony Pilkington.

Rhwydodd capten Forest, Henri Lansbury o'r smotyn yn hwyr yn y dydd wedi iddo gael ei lorio gan Gunnarsson, ond dal ymlaen wnaeth Caerdydd.

Maen nhw wedi ennill saith pwynt o'r naw posib o dan ofal Neil Warnock ac yn eistedd yn yr 20ed safle yn y Bencampwriaeth, tu ôl i Forest ar wahaniaeth goliau'n unig.