Arweinwyr y DU yn cwrdd i drafod camau Brexit

Carwyn Jones Image copyright Reuters
Image caption Carwyn Jones cyn y cyfarfod yn Llundain ddydd Llun

Mae Carwyn Jones wedi cwrdd â Theresa May ac arweinwyr Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn Llundain ddydd Llun, i drafod y camau nesaf yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae prif weinidog Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth Prydain gytuno gyda'r arweinwyr eraill cyn trafod meysydd sydd wedi eu datganoli gydag arweinwyr Ewrop.

Ond mae llefarydd ar ran Theresa May wedi rhybuddio na ddylai arweinwyr y gwledydd datganoledig "danseilio" Llywodraeth Prydain drwy gynnal trafodaethau ar wahân ag Ewrop.

Yn dilyn y cyfarfod ddydd Llun, dywedodd Theresa May ei fod yn "hanfodol" fod Cymru'n cynorthwyo er mwyn i drafodaethau Brexit fod yn llwyddiant.

Ond wrth drafod yr awgrym fod rhai rhannau o'r DU yn magu perthynas wahanol i'w gilydd o ran aros o fewn y farchnad sengl, dywedodd llefarydd swyddogol Mrs May: "Rhaid i ni sicrhau nad ydym yn gosod rhwystrau i fasnachu o fewn y DU."

Ychwanegodd: "Rydym wedi bod yn eglur iawn y dylie ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau'r fargen orau posib i'r holl wlad. Rydym yn disgwyl i gynrychiolwyr y gweinyddiaethau datganoledig i weithredu yn y ffordd yma ac i beidio tanseilio safle'r DU mewn unrhyw ffordd."

'Ansicrwydd'

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Carwyn Jones: "Mae cryn dipyn o ansicrwydd o hyd o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch beth yn union sy'n cyfri fel llwyddiant. Mae hynny'n ei gwneud yn anodd i'r gweinyddiaethau datganoledig ddylanwadu'n gadarnhaol ar y broses, ond rydyn ni'n benderfynol o hyd i sicrhau'r fargen orau i Gymru.

"Fe wnes i ddadlau'n gryf iawn dros fynediad llawn, dirwystr at y farchnad sengl - fy mhrif flaenoriaeth o hyd yw economi Cymru a sicrhau mwy o swyddi o ansawdd gwell. I ni, dyna'r man cychwyn ar gyfer y trafodaethau.

"Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ildio i alwadau'r gweinyddiaethau datganoledig am gyfarfod yn amlach, ac i ni gael rhan ystyrlon wrth ddatblygu'r rhaglen waith yn ymwneud â Brexit yn y dyfodol."

Cyfarfod

Dwy flynedd yn ôl oedd y tro diwethaf y daeth yr holl arweinwyr at ei gilydd o dan faner Cyd-bwyllgor y Gweinidogion.

Ers hynny mae'r DU wedi pleidleisio i adael yr UE, ac mae Theresa May wedi camu i sedd prif weinidog y wladwriaeth.

Roedd disgwyl iddi gynnig sefydlu "fforwm swyddogol" ddydd Llun fyddai'n gyswllt rhwng y llywodraethau datganoledig a'r gweinidog sy'n gyfrifol am broses Brexit, David Davis.

Cyn y trafodaethau, roedd melin drafod yr Institute for Government wedi rhyddhau adroddiad yn rhybuddio y gallai'r berthynas rhwng y pedair llywodraeth "ddirywio'n sylweddol" os nad ydyn nhw'n cytuno ar safbwyntiau ar y cyd cyn unrhyw drafodaethau ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

Image copyright Getty Images
Image caption Daeth Theresa May i Gaerdydd i gyfarfod Carwyn Jones ym mis Mehefin

Cytuno ar strategaeth

Dydd Sul, dywedodd Carwyn Jones na fyddai'n cefnogi unrhyw gytundeb i adael yr UE fyddai'n golygu tariffau masnach ar nwyddau o Gymru.

Mewn llythyr i Ms May, dywedodd y dylai fod 'na gyfarfod rhwng y llywodraethau cyn pob sesiwn drafod ar faterion sydd wedi eu datganoli, er mwyn "cytuno ar safbwynt drafod ar ran y DU ar y materion manwl sydd dan ystyriaeth".

Ychwaegodd y dylid amlinellu cynllun bras ar gyfer y trafodaethau ar Brexit cyn iddyn nhw gychwyn, fel bod y llywodraethau unigol yn gallu eu cymeradwyo neu eu gwrthod mewn pleidlais seneddol.

Yn ôl Mr Jones, byddai hynny'n "adlewyrchu safbwynt datganedig Llywodraeth y DU bod y DU yn deulu o genhedloedd".

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Carwyn Jones: Osgoi tariffau yn "hollbwysig"

Dywedodd Ms May wrth y cyd-bwyllgor ei bod yn cynnig "llinell uniongyrchol" i lywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gysylltu â David Davis yn ffurf is-bwyllgor newydd.

Byddai'r is-bwyllgor yn cwrdd am y tro cyntaf cyn ddiwedd Tachwedd ac o leiaf unwaith eto cyn y Nadolig.

Dywedodd y byddai'r fforwm hwnnw "yn gyfle iddyn nhw i gyd i awgrymu sut mae cymryd y cyfleon y mae Brexit yn eu cyflwyno ac i weithredu ar benderfyniad democrataidd pobl y DU".

Ychwanegodd y bydd hi'n gwrando ar y cenhedloedd datganoledig ond rhybuddiodd bod rhaid iddyn nhw hefyd "chwarae eu rhan".

Perthynas 'aeddfed'

Dywedodd Ms May ddydd Sul ei bod am gryfhau'r berthynas gyda gweinidogion llywodraethau datganoledig Prydain wrth i'r cyd-bwyllgor gwrdd am y tro cyntaf ers Rhagfyr 2014.

Mae Ms May hefyd yn cynnig cyfres o newidiadau i'r cyd-bwyllgor, gan gynnwys sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn flynyddol o leiaf a chynhyrchu adroddiad blynyddol ar weithgaredd y grŵp.

Pe bai'r newidiadau'n cael eu cymeradwyo, fe fyddai cadeiryddiaeth a lleoliad y cyfarfod - sy'n digwydd y tro hwn yn Downing Street dan gadeiryddiaeth Ms May - yn symud o un wlad i'r llall.

Dywedodd Ms May: "Rwy' eisiau i gyfarfod dydd Llun fod yn ddechrau perthynas newydd, aeddfed rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU - perthynas ble rydym ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i greu dyfodol i bawb yn y Deyrnas Unedig."