Gareth Bale wedi'i enwi ar restr fer Ballon d'Or 2016

gareth bale Image copyright Dennis Grombkowski/Getty Images

Mae Gareth Bale wedi cael ei enwi yn un o'r 30 pêl-droediwr ar restr fer gwobr Ballon d'Or 2016.

Roedd cylchgrawn France Football, sydd yn cyflwyno'r wobr flynyddol ar gyfer chwaraewr gorau'r byd, yn rhyddhau'r enwau fesul pump trwy ddydd Llun.

Mae sêr rhyngwladol fel Cristiano Ronaldo, Lionel Messi ac Antoine Griezmann ymysg y rheiny sydd wedi'u henwi.

Mae disgwyl i'r rhestr fer gael ei chwtogi i dri enw cyn diwedd y flwyddyn, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni ym mis Ionawr 2017.

Ronaldo yn ffefryn

Mae gwobr y Ballon d'Or wedi cael ei rhoi gan France Football bob blwyddyn ers 1956, a rhwng 2010 a 2016 roedd y wobr yn cael ei gyflwyno ar y cyd â FIFA.

Yr Archentwr, Messi o glwb Barcelona oedd yr enillydd yn 2015, a hynny am y pumed gwaith.

Y tro diwethaf i unrhyw un oni bai am Messi neu Ronaldo ennill oedd yn 2007, pan gipiodd Kaka y wobr.

Ronaldo yw'r ffefryn ar gyfer y wobr eleni, a hynny ar ôl ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid yn ogystal ag Euro 2016 gyda Phortiwgal.

Ond mae Bale hefyd wedi cael blwyddyn i'w chofio, gan ennill Cynghrair y Pencampwyr hefyd gyda'i glwb cyn cyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016 gyda Chymru.

Rhestr fer Ballon d'Or 2016

Sergio Aguero (Manchester City), Pierre-Emerick Aubameyang (Borussia Dortmund), Gareth Bale (Real Madrid), Gianluigi Buffon (Juventus), Cristiano Ronaldo (Real Madrid), Kevin de Bruyne (Manchester City), Paulo Dybala (Juventus), Diego Godin (Atletico Madrid), Antoine Griezmann (Atletico Madrid), Gonzalo Higuain (Juventus), Zlatan Ibrahimovic (Manchester United), Andres Iniesta (Barcelona), Koke (Atletico Madrid), Toni Kroos (Real Madrid), Robert Lewandowski (Bayern Munich), Hugo Lloris (Tottenham Hotspur), Riyad Mahrez (Caerlŷr), Lionel Messi (Barcelona), Luka Modric (Real Madrid), Thomas Muller (Bayern Munich), Manuel Neuer (Bayern Munich), Neymar (Barcelona), Dimitri Payet (West Ham), Pepe (Real Madrid), Paul Pogba (Manchester United), Rui Patricio (Sporting Lisbon), Sergio Ramos (Real Madrid), Luis Suarez (Barcelona), Jamie Vardy (Caerlŷr), Arturo Vidal (Bayern Munich).