Gwasanaethau brys yn ymateb i wrthdrawiad ym Mhowys

gwrthdrawiad

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i wrthdrawiad ar ffordd ym Mhowys.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A458 rhwng y Trallwng a Chyfronydd, ger Castell Caereinion.

Y gred yw bod y gwrthdrawiad rhwng pedwar car a lori.

Mae un person wedi ei gludo i'r ysbyty, ac nid oes adroddiadau o unrhyw anafiadau eraill.

Mae'r heddlu a dau griw o'r gwasanaeth tân ac achub yn bresennol.