Cais estraddodi panelydd Eggheads, CJ de Mooi yn methu

CJ de M Image copyright PA

Bydd y cyn banelydd ar raglen Eggheads, CJ de Mooi, yn "parhau i gydweithio gyda'r awdurdodau yn yr Iseldiroedd" ar ôl i ymgais i'w estraddodi dros lofruddiaeth honedig fethu.

Mae Mr de Mooi, sy'n 46 ac yn byw yn Sir Fynwy, wedi ei gyhuddo o ddynladdiad, llofruddiaeth ac ymosod yn Amsterdam yn 1988.

Cafodd ei arestio dan warant Ewropeaidd fis diwethaf, a'r gred yw bod yr awdurdodau yn yr Iseldiroedd wedi ceisio ei estraddodi.

Mewn datganiad, dywedodd rheolwr Mr de Mooi ei fod yn "falch iawn" gyda chanlyniad y gwrandawiad, ac y byddai'n "parhau i gydweithio gydag awdurdodau'r Iseldiroedd tan fod y mater wedi dod i ben".

Diolchodd hefyd am negeseuon o gefnogaeth y mae wedi eu derbyn.

Yn ei hunangofiant gafodd ei gyhoeddi'r llynedd, disgrifiodd Mr Mooi, oedd yn arfer defnyddio'r enw Joseph Connagh, ddigwyddiad pan darodd ddyn oedd wedi dod ato gyda chyllell yn Amsterdam.

Dywedodd bod y dyn wedi "ei ddal ar y diwrnod anghywir" a'i fod yn "amau fy mod wedi ei ladd".

Mae Mr de Mooi yn wreiddiol o Barnsley yn Lloegr, ac fe ddaeth yn banelydd ar raglen gwis Eggheads yn 2003.

Straeon perthnasol