Hedfan plentyn i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad Sir Benfro

B4318 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4318 rhwng Dinbych-y-pysgod a Sageston

Mae plentyn wedi cael ei hedfan i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng pedwar car yn Sir Benfro.

Mae'r B4318 yn parhau ynghau rhwng Dinbych-y-pysgod a Sageston yn dilyn y gwrthdrawiad am tua 13:40 ddydd Llun.

Fe gafodd dynes ei thorri o un car gydag anafiadau difrifol, tra bo pobl eraill wedi dioddef man anafiadau.

Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio i achos y digwyddiad.