Neges gan y Tywysog Charles ar dorch wedi ei chymryd

Tywysog Charles

Mae neges oedd wedi ei hysgrifennu ar dorch gan y Tywysog Charles ym mynwent Aberfan wedi ei chymryd.

Roedd y tywysog wedi gosod y dorch ddydd Gwener gan ei bod hi'n hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan pan gafodd 144 o bobl eu lladd ar ôl i domen o lo lithro i lawr ochr mynydd Merthyr a chladdu ysgol gynradd a 18 o dai yn y pentref.

Fe blannodd goeden hefyd yn yr ardd goffa yn Aberfan. Roedd y neges ar y dorch wedi diflannu erbyn dydd Sul.

Image copyright Getty Images

Ddydd Gwener fe gafodd munud o dawelwch ei gynnal yng Nghymru i gofio'r rheiny fu farw ar 21 Hydref 1966. Roedd 116 ohonynt yn blant.

Fe dreuliodd y tywysog brynhawn dydd Gwener gyda theuluoedd y rhai wnaeth golli eu hanwyliaid yn y drychineb ac fe aeth i dderbyniad ac arwyddo llyfr coffa.

Fe wnaeth o hefyd ddadorchuddio plac i gofio am y rhai fu farw.