Cofio'r Cymry

Llŷr Gwyn Lewis
Image caption Llŷr Gwyn Lewis

Sut un oedd o neu hi? Dyna gwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml i bobl oedd yn adnabod rhai o gymwynaswyr mwya'r genedl.

Dyma gwestiwn y mae'r bardd a'r llenor Llŷr Gwyn Lewis wedi bod yn ei ofyn yn ddiweddar i rai oedd yn adnabod chwech o Gymry amlwg wnaeth gyfraniad mawr mewn amrywiol feysydd.

Bydd yna gyfle i chi ddod i'w hadnabod yn well yn y gyfres Dwyn i Gof ar Radio Cymru ar 28 Hydref.

Mae Llŷr yn rhannu rhai o'i argraffiadau gyda Cymru Fyw:


'Casgliad eclectig'

Beth, meddech chi, sydd gan Bob Roberts Tai'r Felin, Cynan, Norah Isaac, Dai Francis, Mattie Prichard a Bedwyr Lewis Jones yn gyffredin? Cymharol ychydig ar un wedd, mae'n siŵr, a hwythau'n gasgliad eclectig o bobl a wnaeth eu marc mewn nifer o wahanol feysydd.

Ond fe fu'r chwech ohonyn nhw fyw drwy gyfnod diddorol, cyffrous a thyngedfennol yn hanes y Gymru fodern, pan welwyd newidiadau trawiadol i'n diwylliant a'n ffordd o fyw.

Yn 1951 y bu Bob Roberts farw; collwyd Norah Isaac yn 2003. Dyna i chi gyfnod o bron i hanner can mlynedd pan gafwyd nifer o newidiadau, enillion - a cholledion hefyd. Cwta 16 oed oeddwn i pan fu farw Norah Isaac, ac er mor ymwybodol oeddwn i o arwyddocâd a chyfraniad y bobl hyn i gyd mewn rhyw ffordd, eto i gyd math o ffigurau ail law oedden nhw i mi.

Yr hynaf o'r rhai y bûm yn eu holrhain oedd Bob Roberts, Tai'r Felin. Wrth edrych ar hen ffilmiau du a gwyn o berfformiadau'r gŵr hynod hwn, neu glywed ei lais yn gracl i gyd ar hen record, rhaid cyfaddef fod Bob Roberts yn teimlo fel cymeriad o oes gwbl wahanol i'n un ninnau.

Image caption Llŷr tu allan i Tai'r Felin, cartref "seren bop cyntaf y Gymraeg"

Diwylliedig

Ond er yr argraff o ddiniweidrwydd braf, diwylliedig (a diflanedig efallai) sydd i'w gael o olrhain ei hanes, roedd sgwrsio â rhai a'i cofiai'n glir - rhai fel Dafydd Iwan, a Cledwyn Jones o Driawd y Coleg gynt - yn amlygu dyn llawn direidi a hiwmor a oedd yn ddigon cyfforddus â'i statws hwyr, a mwy modern efallai, fel seren bop cyntaf y Gymraeg.

Cymaint fu'r diddordeb ers blynyddoedd ym mywyd a chymeriad Caradog Prichard - bardd, newyddiadurwr, ac awdur un o'r nofelau gorau erioed, Un Nos Ola Leuad - nes mai hawdd yw canolbwyntio'n ormodol ar y dyn ei hun, gan anghofio bod ei wraig, Mattie, yn gymeriad ac yn bresenoldeb hynod bwysig, nid yn unig ym mywyd Caradog ond hefyd yng nghylchoedd diwylliannol a gwleidyddol Llundain. Gwae ni rhag gweld Mattie fel gwraig i Caradog yn unig - o ddysgu tipyn am y ddynes unigryw hon, rwy'n siŵr y buasai ganddi hi ddigon i'w ddweud am hynny pe bai hi o gwmpas o hyd!

Image caption Cynan (dde, cefn) yn cael ei hebrwng mewn steil i un o brif seremonïau'r Orsedd

Un arall a chanddo ddigon i'w ddweud, o lwyfan Eisteddfod a theatr a phulpud fel ei gilydd, oedd y bardd a'r Archdderwydd Cynan. Ac er mor hawdd oedd dychmygu'r Cynan cyhoeddus, pwysig hwnnw, yn datgan ei gerddi ac yn teyrnasu dros Orsedd y Beirdd wrth glywed straeon digri a dwys amdano, diddorol dros ben hefyd oedd cael darlun o'r Albert - Yncl Albert hyd yn oed - mwy preifat, addfwyn, a ffyddlon.

Ac mae'n debyg y byddai 'addfwyn' a 'ffyddlon' hefyd yn eiriau da i ddisgrifio'r ysgolhaig hynod boblogaidd, Bedwyr Lewis Jones. Er adnabod ac edmygu ei waith yn fawr, doeddwn i erioed wedi gwybod llawer amdano fel person ac yntau wedi marw'n annhymig yn 1992, pan nad oeddwn i ond pum mlwydd oed.

Ond gan gyfeillion a theulu fel ei gilydd, cefais glywed am ddyn arbennig a oedd, er ymroi'n llwyr i'w waith, hefyd yn rhoi gwerth mawr iawn ar bobl - yn enwedig y rhai agosaf ato.

Un arall a chanddi ymroddiad llwyr i'w gwaith mewn sawl maes oedd Norah Isaac. A ninnau wedi ei cholli'n gymharol ddiweddar, roedd nifer o'r rhai a gafodd ddylanwad arnaf innau mewn sawl maes wedi dysgu llawer ganddi hithau trwy gyfrwng nifer o brofiadau gwerthfawr, a nifer o droeon trwstan hefyd.

Roedd hi'n braf cael clywed hanes dynes ryfeddol, o'r cyfnod cynnar yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, hyd at y dyddiau olaf ar yr aelwyd yn ei chartref, Llwybrau, ac am ei dycnwch a'i dyfalbarhad hi drwy'r cyfan.

Angerdd dros y Gymraeg

Ond efallai mai'r un y gwyddwn i lawer llai amdano oedd yr un y dysgais i fwyaf yn ei gylch yn ystod y gyfres.

Roedd Dai Francis yn löwr ac yn undebwr a chanddo angerdd gwirioneddol dros yr iaith a'i diwylliant. Mae'n debyg mai cael ei dderbyn i'r Orsedd oedd un o freintiau mawr ei fywyd, a gweithiodd yn ddiflino wrth sefydlu ac arwain eisteddfodau a hybu'r iaith mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Image caption Dai Francis: "Angerdd gwirioneddol dros yr iaith a'i diwylliant"

Ond os oedd ei sêl dros Gymru a'r Gymraeg yn anhygoel, mwy fyth oedd ei ymroddiad i achos y gweithiwr yn fyd-eang.

Wrth recordio'r rhaglen amdano, mentrodd yr hanesydd blaenllaw Syr Deian Hopkin awgrymu ei bod yn syfrdan nad oes cofiant i Dai Francis wedi ei ysgrifennu hyd yma. Pwy a ŵyr na fydd y rhaglen hon yn sbardun i waith o'r fath.

Oherwydd fe lwyddodd Dai Francis, gan nodweddu pethau gorau'r traddodiad Llafur Cymreig, i gyfuno angerdd dros y Gymraeg a'i diwylliant â bydolwg a gwleidyddiaeth gwbl ryngwladol. Ac os oes gwir angen unrhyw beth arnom y dyddiau hyn, yna mi fyddai dogn o'r cyfuniad hwnnw o egwyddorion diwyro yn rhywbeth i'w groesawu'n fawr iawn.


Dwyn i Gof, Radio Cymru, Dydd Gwener, 28 Hydref, 12:30