Albert Owen yn herio cynllun peilonau Môn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Peilonau Môn: Albert Owen yn herio cynlluniau'r Grid

26 Hydref 2016 Diweddarwyd 10:33 BST

Mae AS Ynys Môn, Albert Owen wedi galw ar y National Grid i ailystyried eu cynlluniau i godi peilonau newydd ar draws yr ynys.

Bwriad y Grid yw codi peilonau er mwyn cludo trydan o orsaf niwclear Wylfa Newydd, ond mae ymgyrchwyr am weld ceblau tanfor yn cael eu defnyddio yn lle hynny.