Casnewydd 2-2 Barnet

Sean Rigg penalty Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd cic o'r smotyn Sean Rigg yn ddigon i sicrhau pwynt i Gasnewydd

Fe orffennodd hi'n 2-2 rhwng Casnewydd a Barnet ar Rodney Parade yn dilyn diweddglo cyffrous i'r ornest.

Roedd peniad Ben Tozer ar ôl 33 munud o groesiad Josh Sheehan wedi rhoi Casnewydd ar y blaen ar yr egwyl, wrth i Graham Westley chwilio am ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr yr Alltudion.

Fe unionwyd y sgôr gyda chwarter awr yn weddill wedi i John Akinde benio'r bêl i gefn y rhwyd yn dilyn tafliad hir gan Samuel Muggleton.

Gydag ychydig dros bum munud i fynd roedd Barnet yn meddwl eu bod nhw wedi cipio'r fuddugoliaeth wedi i Akinde gipio'i ail.

Ond fe ddaeth Sean Rigg â hi'n gyfartal gyda chic o'r smotyn ag ond dau funud yn weddill i sicrhau pwynt i Gasnewydd.

Mae'r Alltudion yn parhau ar waelod tabl Adran Dau, chwe phwynt y tu ôl i Stevenage sydd yn 22fed.