Wrecsam 2-2 Barrow

Dean Keates
Image caption Cafodd Keates ei benodi'n rheolwr yr wythnos hon yn dilyn ymadawiad Gary Mills

Fe fethodd Wrecsam ag ennill gêm gyntaf Dean Keates wrth y llyw fel rheolwr ar ôl ildio gôl hwyr i Barrow.

Roedd Byron Harrison wedi rhoi'r ymwelwyr ar y blaen ar ôl dim ond naw munud, cyn i Curtis Tilt unioni'r sgôr wedi 25 munud gyda pheniad o groesiad John Rooney.

Rhoddodd Barrow y bêl yng nghefn y rhwyd eto wedi 67 munud ond chafodd y gôl ddim ei chaniatáu oherwydd trosedd ar golwr Wrecsam, Shwan Jalal.

Fe sgoriodd Rooney ei ail ar ôl 78 munud i roi Wrecsam ar y blaen, ond yna daeth Ryan Yates â Barrow yn gyfartal gyda munud yn weddill ar ôl manteisio ar amddiffyn blêr gan y tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yn 14eg yn y Gynghrair Genedlaethol.