Carchar dros yr iaith

Alun Llwyd a Branwen Niclas yn cael eu cyfweld gan y BBC Image copyright Chris Reynolds
Image caption Alun Llwyd a Branwen Niclas yn cael eu cyfweld gan y BBC ar ôl gadael y carchar

Chwarter canrif ers cael eu rhyddhau o'r carchar ar ôl gweithredu dros Gymdeithas yr Iaith Gymraeg mae Alun Llwyd a Branwen Niclas wedi bod yn cofio am y cyfnod a'r frwydr sy'n "dal yn berthnasol heddiw", meddent.

Cafodd y ddau eu dedfrydu i 12 mis o garchar ar ôl torri i mewn i swyddfeydd y Llywodraeth yn Llandrillo-yn-Rhos, Conwy, a chreu difrod.

Roedd y weithred yn rhan o ymgyrch Ddeddf Eiddo y Gymdeithas oedd yn galw am degwch i bobl leol yn y farchnad dai.

Wedi i chwe mis o'u dedfryd gael ei ohirio, fe gafodd y ddau ddod allan yn nechrau Rhagfyr 1991 ar ôl tri mis dan glo.

Yno i'w croesawu roedd cefnogwyr a chamerâu teledu.

Ymhen deuddydd roedd gig fawr, Rhyw Ddydd, Un Dydd, yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar Ragfyr 7 i ddathlu eu rhyddhau - penllanw'r ymgyrch ac un o gigs chwedlonol y sîn roc Gymraeg erbyn hyn.

Mae'r rhaglen Recordiau Rhys Mwyn, BBC Radio Cymru, wedi bod yn trafod y gig a CD O'r Gad a ryddhawyd fel rhan o'r ymgyrch hefyd.

Er bod 25 mlynedd wedi mynd heibio mae'r diwrnod y daethon nhw allan yn dal yn fyw iawn yn eu cof.

Image caption Bu Radio Cymru yn trafod carchariad Branwen Niclas ac Alun Llwyd a chyhoeddi'r CD O'r Gad ryddhawyd fel rhan o'r ymgyrch

"Roedd dod allan yn anhygoel," meddai Alun Llwyd wrth BBC Cymru Fyw. "Cerdded allan a gwisgo yr un dillad o'n i'n wisgo pan es i fewn i'r carchar, Mam a Dad yn fy nghyfarfod i ac yna'n fy ngyrru lawr i'r Wyddgrug ar gyfer cyfarfod croesawu.

"Does 'na ddim modd egluro mewn geiriau y teimlad yna o fod allan o rwla fel 'na ar ôl cyfnod mor hir."

Meddai Branwen Niclas: "Yn amlwg roedd na countdown ac ro'n i'n ticio'r dyddiau wrth iddyn nhw basio. Ond roedd gig Rhyw Ddydd yn syrpreis inni."

Roedd ymgyrch y Ddeddf Eiddo yn deillio o'r ddadl fod pobl leol yn methu fforddio prynu tai yn eu cymuned leol am fod prisiau tai yn rhy uchel.

Roedd y Gymdeithas eisiau deddf i reoli hyn er mwyn stopio pobl rhag gadael eu hardaloedd lleol gan felly helpu i gynnal a chadw cymunedau Cymraeg.

Roedd hi'n ymgyrch bwysig meddai Alun wrth i ymgyrchwyr "sylweddoli fod dyfodol y Gymraeg ynghlwm â dyfodol economaidd cymunedau Cymru".

Cyn hynny, roedd y Gymdeithas wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau iaith.

'Llangrannog i bobl ddrwg'

Cafodd Alun ei roi yn ngharchar Walton i ddechrau, "carchar reit ddychrynllyd, reit galad" lle roedd yn rhannu cell gyda thri pherson arall.

Roedd y dyddiau cyntaf yn anodd: "Oni'n meddwl, 'waw, dwi ddim yn gwybod os allai handlo hwn am dri mis'."

Ond cafodd ei symud ymhen pythefnos i garchar mwy agored mae'n ei ddisgrifio "fel rhyw fath o Langrannog i bobl ddrwg".

Image copyright Iain Greig/Geograph
Image caption Roedd carchar Walton yn Lerpwl yn "reit ddychrynllyd" meddai Alun.

Aeth Branwen i Risley cyn treulio gweddill y carchariad yn Drake Hall yn Sir Stafford lle byddai'r swyddogion yn cyfeirio ati wrth ei rhif yn unig, GB1510.

Pobl oedd wedi cyflawni troseddau ariannol fel twyll treth neu ddwyn oedd y rhan fwyaf o'r carcharorion eraill ac yn aml o gefndiroedd mwy difreintiedig na nhw.

"Mi wnaeth o fy nghyfoethogi fi fel person ar sawl lefel a fy ngwneud lot mwy ymwybodol o hawliau merched a hawliau pobl mwy bregus mewn cymdeithas - mi wnaeth o agor fy llygaid mewn mwy nag un ffordd," meddai Branwen.

Miloedd o lythyrau

Deallodd y carcharorion eraill yn weddol fuan fod y ddau'n garcharorion gwahanol i'r arfer oherwydd y miloedd o lythyrau o gefnogaeth roedden nhw'n ei gael - hyd at 50 y dydd - a hynny hefyd wnaeth eu helpu i ddod drwyddi, meddai Alun.

Image copyright Chris Reynolds
Image caption Roedd cael eu rhyddhau o'r carchar yn "brofiad anhygoel"

"Mae'r llythyrau i gyd yn dal gen i, dwi'n falch iawn ohonyn nhw," meddai.

"Llythyrau gan bobl fel Islwyn Ffowc Elis a phobl eraill sy'n anffodus wedi'n gadael ni felly mae 'na lythyrau gwerthfawr yna, llythyrau sy'n gwneud imi deimlo yn fwy balch o'r hyn wnes i achos oedd y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth ar draws ystod mor eang o bobl.

"Oedd y llythyrau yna yn eithriadol bwysig o ran fy nghadw i'n gall."

Cefnogaeth carcharorion

Diflastod mae Alun yn ei gofio fwyaf am ei dri mis yn y carchar lle roedd yn darllen a gwrando ar gerddoriaeth i basio'r amser.

Ond chafodd o "ddim byd ond cyfeillgarwch" gan y carcharorion eraill meddai.

Image copyright PA
Image caption Fe wnaeth ei phrofiad yn Drake Hall ei "chyfoethogi" fel person meddai Branwen Niclas

Cefnogaeth ac undod mae Branwen yn ei gofio hefyd gan ei chyd-garcharorion: "Jyst cefnogaeth lwyr bod chdi 'di gneud rwbath dros egwyddor. Roedd yr ymgyrch yn gwneud synnwyr iddyn nhw.

"Roedd lot o'r genod yn dod o gefndiroedd difreintiedig heb fynediad i'r farchnad dai felly os o't ti'n d'eud bod ti'n trio cael rhywfath o gyfartaledd a mynediad i bobl gael tai fforddiadwy - roedd o'n berthnasol i bobl tu allan i Gymru."

Fe wnaeth Branwen y gorau o'i chyfnod yno, meddai, gan ddechrau cylchgrawn 'sgrifennu i'r menywod, 'sgrifennu pantomeim Nadolig a dysgu rhai o'r carcharorion eraill sut i ddarllen.

"Ti jyst yn derbyn pobl am bwy ydyn nhw, derbyn dy fod yno am gyfnod, ac yn gwneud y gorau o'r sefyllfa ac yn trio helpu," meddai.

Image copyright Chris Reynolds
Image caption Roedd teulu, ffrindiau a chyd-ymgyrchwyr yno i groesawu'r ddau o'r carchar

Bu Branwen ar streic newyn yn ystod diwedd ei charchariad hefyd wedi i'w Haelod Seneddol, y Ceidwadwr Wyn Roberts, wrthod dod i'w gweld i drafod yr ymgyrch, oedd yn un o hawliau sylfaenol unrhyw garcharor.

Byddai ei chyd-garcharorion yn ceisio ei helpu drwy smyglo bwyd iddi, meddai: "Roedden nhw'n meddwl y baswn i'n ei fwyta'n gudd a mod i jyst yn gwneud y streic o flaen y staff!"

'Y frwydr ddim wedi newid'

Mae Alun heddiw yn rhedeg cwmni Turnstile sy'n rheoli artistiaid fel Gruff Rhys, Gwenno, Cate Le Bon a Charlotte Church a Branwen wedi gweithio i elusen Cymorth Cristnogol am nifer o flynyddoedd.

Mae hi'n fam brysur ar hyn o bryd a chanddi bedwar o blant, tri ohonyn nhw dan dair oed gan gynnwys efeilliaid bach pedwar mis oed.

Ond er bod 25 mlynedd wedi pasio a bywydau'r ddau wedi dilyn llwybrau gwahanol, mae'r ddau'n amlwg yn dal i deimlo'r un angerdd ac argyhoeddiad.

"Ro'n i'n teimlo'n gryf iawn ar y pryd a dwi'n dal i deimlo'n gryf am y ffaith fod y sefyllfa dai yn un cymhleth ac yn un anodd iawn i bobl allu cael cyfiawnder ynddi," meddai Branwen.

"Mae prisiau tai wedi mynd allan o afael mwy o bobl erbyn hyn ac mae'r effaith ar deuluoedd a chymunedau gwledig a threfol yn ddinistriol.

"Mae cynaladwyedd cymunedol yn rhywbeth dwi'n meddwl ddyle fod wrth galon polisïau'r Llywodraeth a dylai pawb allu byw mewn cymunedau hyfyw lle mae pawb yn gallu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg."

Meddai Alun: "Mae'r hinsawdd wedi newid, mae 'na fwy o dôn gyfaddawdol ynglŷn â'r Gymraeg oherwydd fod 'na fuddugoliaethau wedi eu hennill a dwi'n meddwl fod 'na beryg yn hynny.

"Dwi'n credu bod y rhesyma' yna dros y weithred 25 mlynedd yn ôl yn dal yn wir a dydi'r frwydr yna - sut mae'r wlad yn cael ei llywodraethu a'r system gyfalafol - ddim wedi newid."

Cred Alun bod camau positif wedi eu cymryd ond bod llwyddiant sefydliadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac S4C "yn gallu tynnu llygad pobl oddi ar y ffaith fod y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw yn dal mewn peryg difrifol"

"I fi, dydi o ddim ots mewn gwirionedd be' ydy nifer y bobl sy'n mynychu cae Steddfod, os nad ydy'r Gymraeg fel iaith yn ein cymunedau yn fyw yna mae'r iaith yn farw i bob pwrpas."

I Branwen, colli cyfle a diffyg gweledigaeth yw gwaddol gwleidyddol y cyfnod:

"Mi faswn i'n hoffi petai mwy o ddifrifoldeb wedi cael ei roi i'r ymgyrch Ddeddf Eiddo achos mae'r egwyddorion oedd ynghlwm wrthi yr un mor berthnasol os nad yn fwy perthnasol heddiw.

"Fysa'r sefyllfa dai ddim wedi gwaethygu gymaint heddiw tasa gweinidogion a gwleidyddion wedi cymryd y mater o ddifri, rhoi mwy o wrandawiad i'r ymgyrch a gweithredu ar y pwyntiau."

Diolch i Chris Reynolds am y lluniau

Image copyright Chris Reynolds
Image caption Cyfarfod i groesawu Alun a Branwen o'r carchar yn Rhagfyr 1991