Paratoi ar gyfer dechrau Rali Cymru GB

rali

Fe fydd coedwigoedd Cymru yn croesawu 148 o geir sy'n cystadlu yn Rali Cymru GB ddydd Iau.

Dyma rownd olaf ond un Pencampwriaeth Rali'r Byd eleni.

Mae'r rali yn cynnwys 22 o gymalau sydd dros 206 o filltiroedd cystadleuol i gyd.

Fe fydd y seremoni agoriadol yn digwydd o dan y llifoleuadau ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn nos Iau, cyn i'r rasio fynd ymlaen i ganolbarth Cymru ddydd Gwener.

Bydd yr enillwyr yn cael eu coroni mewn seremoni yn Stryd Mostyn yn Llandudno yn gynnar brynhawn Sul.

Ymysg y cystadleuwyr eleni mae'r Pencampwr Byd presennol ac enillydd Rali Cymru GB y llynedd, Sébastien Ogier, sydd eisoes wedi sicrhau'r bencampwriaeth eleni.

Mae Andreas Mikkelsen o Norwy a Thierry Neuville o Wlad Belg sydd yn gydradd ail yn y bencampwriaeth ar hyn o bryd, ac mae Kris Meeke o Ogledd Iwerddon yn nawfed.

Mae trefnwyr y rali wedi addo y bydd y digwyddiad "hyd yn oed yn fwy trawiadol" eleni.